Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am rai sylwadau caredig a phwyntiau y mae wedi eu gwneud. Rydych chi wedi cydnabod fy mod yn gwrando, y gallaf wynebu her, a dyna'n union beth yr wyf yn ei wneud, a dyna'n union pam y byddaf yn gwrando ar y grŵp llywio a’r arbenigwyr hynny sy’n eistedd ar y grŵp llywio sy'n cynrychioli ein sefydliadau cenedlaethol—nid dim ond yr amgueddfa. Ac rwy’n gwybod eich bod wedi siarad llawer am yr amgueddfa, ond mae a wnelo hyn â mwy na’r amgueddfa genedlaethol; mae a wnelo â'r sefydliadau mawr sydd gennym sy'n cynrychioli cyfanrwydd y sector treftadaeth yr wyf yn teimlo'n angerddol amdano. Ac felly byddaf yn gwrando ar yr arbenigwyr hynny. Gallaf, gallaf ddiystyru y bydd uno llawn o'r sefydliadau, fel yr ydych yn gofyn i mi ei wneud, ond, o ran y dewisiadau hynny, rwy'n mynd i’w adael i'r grŵp llywio lunio cyfres argymhellion ar sil gwybodaeth dda.
Mae'r Aelod wedi codi llawer o bwyntiau, ond gadewch i ni sefydlu man cychwyn: ein bod ni i gyd yn angerddol am ddyfodol ein sector treftadaeth. Rydym ni i gyd yn awyddus i'n sefydliadau diwylliannol fod yn gryfach, nid dim ond sefydliadau cenedlaethol, ond y sefydliadau lleol hefyd. Dyna pam y comisiynwyd adolygiad panel arbenigol ar amgueddfeydd, dyna pam yr wyf wedi sefydlu’r gronfa llyfrgelloedd dysgu cymunedol fel cronfa drawsnewid, nid yn unig ar gyfer llyfrgelloedd, ond ar gyfer amgueddfeydd hefyd. Mae'n drueni na wnaeth y corff cenedlaethol sy'n cynrychioli amgueddfeydd cymunedol sylweddoli’n iawn fy mod i wedi gwneud hynny pan amlinellais ym mis Ebrill, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, mai dyna oedd ein bwriad gyda'r gronfa llyfrgelloedd dysgu cymunedol. Rydym wedi sefydlu’r gronfa honno ar ffurf cronfa drawsnewid, oherwydd dywedais ar y pryd na allwn aros i greu cronfa gwbl newydd os yw amgueddfeydd cymuned a lleol yn mynd i fynd i’r wal yn y cyfamser. Felly, fe wnes i chwyddo’r gronfa o £1 miliwn i £1.4 miliwn. Mae hynny wedi ei wneud.
Rydym wedi comisiynu’r adolygiad panel arbenigol ar lyfrgelloedd. Nawr, gadewch i ni edrych ar lyfrgelloedd. Gadewch i ni edrych yn ôl i 2008, pan awgrymodd cyn Ysgrifennydd Gwladol, bod yn rhaid i lyfrgelloedd lleol arallgyfeirio yn wyneb y problemau cyllid cyhoeddus a oedd ar y gorwel, bod yn rhaid cael rhywfaint o gyd-leoli adnoddau a gwasanaethau. Cafodd ei gyhuddo o fod yn farbariad diwylliannol, oedd am roi siopau pysgod a sglodion—ac mae hwnnw’n ddyfyniad union, siopau pysgod a sglodion—gan bobl oedd, ie, yn llawn bwriadau da, a oedd yn gofalu am lyfrgelloedd, ond yn y pen draw, roedd y gofal hwnnw wedi arwain at fygu cannoedd ar gannoedd o lyfrgelloedd yn Lloegr, oherwydd eu bod yn draddodiadwyr, yn rymoedd gwrthwynebiad, a wrthododd dderbyn bod yn rhaid newid, bod y gymdeithas wedi symud ymlaen, bod yn rhaid inni apelio at bobl mewn ffordd newydd ac arloesol. Ac os ydym yn edrych ar y don—y tswnami—o negeseuon masnachol sy’n taro pobl bob dydd, yn sicr mae'n rhaid i chi gydnabod yn awr, yn fwy nag erioed, bod yn rhaid i chi gael brand cryf i fod yn berthnasol, bod yn rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich gwaith hysbysebu, eich gwaith marchnata, mor effeithiol ag y gall fod i dorri drwy’r hyn yr wyf wedi’i alw yn 'fwyd cyflym ar gyfer yr enaid’—y diwylliant pop sy'n taro pobl bob eiliad o'r dydd drwy gyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen.
Felly, mae'n hanfodol ein bod ni’n gwneud mwy er mwyn i’r sector treftadaeth farchnata ei hun, ond mae angen iddyn nhw wneud yn siwr eu bod yn cydweithio'n agos hefyd. Rydych yn dweud bod pawb yn cytuno ar gydweithio—ydyn, maen nhw, ond nid yw rhai mewn gwirionedd yn gwireddu eu geiriau cynnes, ac rwy’n rhoi pwyslais ar ddarparu ymdrechion cydweithredol, nid dim ond siarad am gydweithio. O ran y maniffesto, fel y dywedais, rydym yn byw mewn oes newydd erbyn hyn a phenderfynodd Llafur Cymru fynd yn ddigidol yn gyntaf i gydnabod y ffaith bod y rhan fwyaf o bobl bellach yn gweithredu yn ddigidol yn gyntaf. Felly, gosodwyd ein maniffesto cyfan ar y rhyngrwyd a byddaf yn hapus i argraffu adrannau sy'n ymdrin â diwylliant ac sy'n cyfeirio at Gymru Hanesyddol. Rwy’n cydnabod bod rhai pobl wedi ei chael hi’n anodd cael mynediad at y tudalennau hynny, ond byddwn yn gallu siarad ac esbonio’r broses o lawrlwytho ac argraffu’r maniffesto. Rwy'n ymwybodol o'r nifer o lythyrau sydd wedi eu cyflwyno, ond rwy’n gobeithio y bydd fy sylwadau heddiw yn tawelu meddwl llawer o bobl sy'n poeni, ac sydd â phryderon gwirioneddol. Rwy'n credu bod rhai o'r llythyrau, ac yr wyf wedi darllen llawer, yn seiliedig ar wybodaeth anghywir neu ofn na ellir ei esbonio.
Ni all annibyniaeth fod yn rhwystr i weithio'n agosach gyda'n gilydd, a, lle bo angen, cyfuno adnoddau. Roedd yr Aelod yn briodol wrth nodi un o ddibenion craidd yr amgueddfa: sef gwerthu yr hyn yw Cymru i'r byd. A dyna fy mwriad yn llwyr. Mae'n ymwneud â gwerthu'r hyn sy'n wych am Gymru, gyda’i gilydd. Ddoe, roeddwn i yn Llundain—roeddwn yn ffair deithio’r byd—ac yr oedd neuaddau di-ri yn llawn nifer enfawr o stondinau yn cynrychioli rhanbarthau a sefydliadau a chwmnïau o bobl mathau o wledydd, rhai ohonynt wedi gwario miliynau ar eu stondinau. Rhai y dwyrain canol yn benodol, roeddent yn anhygoel—roedd rhai yn rhoi pennau ysgrifennu, beiros Bic; rwy'n siŵr eu bod nhw’n rhoi Montblancs. Roedd yn anhygoel faint o arian yr oeddent yn ei wario arno. Felly, roeddent yn gallu cyflwyno brand cryf iawn ar gyfer eu hardaloedd, yr hyn y maent yn sefyll ar ei gyfer, ansawdd uchaf yr hyn y maent yn ei gynrychioli. Roeddwn yn falch, ar ein stondin ni—nid oes gennym gymaint o ran adnoddau ag sydd gan rai gwledydd, ond, ar ein stondin ni, roedd ein sefydliadau treftadaeth wedi’u cynrychioli; roedd gennym Cadw a'r amgueddfa genedlaethol gyda'i gilydd. Doedden nhw ddim yn hyrwyddo beth oedden nhw yn unigol; roeddent yn hyrwyddo treftadaeth yng Nghymru, un o'r prif bethau sy’n denu pobl i Gymru fel ymwelwyr. Rwy’n awyddus i weld mwy o'r math hwnnw o weithgaredd.
Rydw i wedi clywed rhai pobl yn dweud, 'Yn hytrach na chanolbwyntio ar newid, neu yn hytrach na gorfodi cydweithio, pam na wnewch chi roi mwy o arian, pam na wnewch chi ganolbwyntio mwy ar adnoddau?' Ni fydd rhoi mwy o arian o reidrwydd yn cael mwy o bobl drwy'r drysau, a dyna, ar ddiwedd y dydd, yw'r prif nod ar gyfer y sefydliadau cenedlaethol sy'n gwasanaethu pobl Cymru: i fod yn hygyrch ac yn berthnasol ac yn groesawgar. Ac, o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud i sicrhau bod lleoedd yn groesawgar, yn cael eu cynnal yn dda, rydym wedi cynyddu refeniw a chyfalaf yn y flwyddyn ariannol nesaf o 33 y cant. Byddaf yn dweud hynny eto: mae'n 33 y cant i'r amgueddfa genedlaethol a'r llyfrgell genedlaethol gyda'i gilydd. Mae'n gynnydd enfawr mewn adnoddau. Ac os ydych chi’n edrych ar—oherwydd bod rhai yn hoffi cymharu Cymru a Lloegr—newidiadau refeniw o 2010-11, byddwch yn gweld, ar gyfer yr amgueddfa genedlaethol, ei fod yn 7.1 y cant. Ar gyfer y llyfrgell genedlaethol, nid yw cystal; mae'n 9.69. Byddwn wrth fy modd pe bawn i mewn sefyllfa yn y dyfodol i roi setliadau gwell, ond bydd unrhyw un sydd wedi clywed sylwebaeth am y ffordd y mae cyllid cyhoeddus yn mynd i fynd yn cydnabod ein bod yn mynd i wynebu penderfyniadau hyd yn oed mwy anodd yn y dyfodol. Felly, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom sydd pryderu o ddifrif—rydym ni gyd yn pryderu am y sector diwylliant—i'w helpu i fod yn fwy cydnerth yn y cyfnodau ariannol mwyaf anodd.
O’i gymharu â Lloegr, gyda llaw, roedd y toriadau cyfatebol yn Lloegr yn 15 y cant. Gadewch i mi ddod o hyd i ychydig o enghreifftiau penodol, fel y gwneuthum gyda’r ffigurau ymwelwyr. Os edrychwn ar ostyngiad refeniw, ac roedd hyn hyd at 2015, cafwyd gostyngiad o 13.8 y cant i’r Imperial War Museums, er enghraifft, o'i gymharu â, fel y dywedais, y gostyngiad o 7.1 y cant ar gyfer yr amgueddfa genedlaethol. Os ydych chi eisiau unrhyw arwydd, dyna fe—o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’n sefydliadau cenedlaethol, ond, i mi, yr wyf am weld mwy yn cael ei wneud ar y cyd.