8. 7. Datganiad: Cymru Hanesyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 6:35, 8 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Alla i ddim â diolch digon i'r Aelod, a fyddwn i byth, byth yn cwestiynu ei ddoethineb neu ei syniadau. Mae ef, i mi, yn dipyn o Obi-Wan Kenobi i fy Skywalker ychydig yn naïf i. Ond o ddifrif, rwy’n credu ei fod yn ymwneud â gwarchod ein treftadaeth a gwarchod y sefydliadau ar gyfer y dyfodol, ond sicrhau bod y sefydliadau yn gwasanaethu pobl Cymru yn gyntaf ac yn bennaf, ac nad ydym yn tynnu ein llygaid oddi ar y gorwel.