Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny, a nodi, gyda diolch, y datganiad a wnaed y bore yma ar gerbydau. Yn y datganiad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mewn perthynas â phrif reilffyrdd y Cymoedd, bydd gweithrediadau teithwyr—yn cynnwys o fy etholaeth—sy’n defnyddio tyniant diesel yn unig yn cael eu diddymu’n raddol, a bydd trydaneiddio confensiynol, systemau storio ynni a systemau hybrid yn cael eu hystyried. Rwyf wedi cyfarfod â Trenau Arriva Cymru, ac maent wedi dweud, yn y tymor byr, fodd bynnag, na fydd hynny’n bosibl—mae prinder trenau a phrinder cerbydau, felly mae pobl yn sefyll. Nawr, o ystyried yr adroddiad damniol a oedd yn rhestru methiannau Llywodraeth y DU mewn perthynas â thrydaneiddio’r rheilffordd, nid yw hwnnw’n caniatáu i drenau diesel gael eu trosglwyddo i reilffyrdd y Cymoedd dros dro. Hoffwn wybod a oes gan Ysgrifennydd y Cabinet gynllun ar gyfer hynny, ac a fyddai’n gallu ymhelaethu hefyd, efallai, a dweud a fydd masnachfraint Cymru a’r Gororau yn cynnwys trenau newydd yn rhan o’r fasnachfraint?