<p>Masnachfraint Rheilffordd Cymru a’r Gororau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 1:33, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol, yn amlwg, mai uchelgais datganedig Llywodraeth Cymru yw darparu model rheilffordd dielw newydd, ond fel rydych wedi amlinellu, ni fydd y cynigwyr presennol i fod yn weithredwr masnachfraint Cymru a’r Gororau a’r partner datblygu yn gwmnïau dielw eu hunain. Felly, yn amlwg, mae yna botensial am rywfaint o gamddealltwriaeth. Nawr, rwyf am weld model priodol, sy’n ailfuddsoddi elw yn y gwasanaethau a’r seilwaith, a model gwirioneddol ddielw, ac mae gan eraill, megis Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth, uchelgeisiau tebyg. A wnewch chi gadarnhau heddiw eich bod yn rhannu’r egwyddor gyffredinol honno, ac a wnewch chi roi manylion am yr hyn rydych yn ei wneud i symud tuag at y nod hwnnw?