Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Ysgrifennydd Cabinet, beth am gofleidio’r cyfleoedd gwych sydd yn dod wrth ymateb i her newid hinsawdd—y cyfleoedd positif economaidd? Beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i hybu celloedd tanwydd hydrogen yn yr economi ar hyn o bryd? Rwy’n deall bod celloedd tanwydd wedi’u dyfeisio yn wreiddiol yng Nghymru, fel mae’n digwydd bod, ond erbyn hyn mae celloedd tanwydd hydrogen yn ffordd yn arbennig ar gyfer pweru cerbydau, hyd yn oed ar gyfer trenau a all redeg ar y metro newydd sy’n cael ei grybwyll ar gyfer de Cymru. Mae’r dechnoleg yno, mae’r gallu yno, felly beth sydd ei angen nawr yw’r arian a’r gefnogaeth i bontio rhwng y dechnoleg i rywbeth ymarferol pob dydd. Dyma ffordd o droi ynni adnewyddol yn rhywbeth a all gael ei ddefnyddio dros Gymru gyfan.