Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch, Lywydd. Rwy’n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, ein bod wedi gweld eto dros nos, onid ydym, y modd y mae canlyniadau gwleidyddol yn llifo o agenda economaidd sydd wedi methu â chyflawni newid ar gyfer y rhan fwyaf o bobl. Felly, a fyddai’n cytuno mai yn awr yw’r amser am syniadau beiddgar mawr sydd â’r potensial i sicrhau newid trawsnewidiol i’n gwlad a’n pobl? Yn yr ysbryd hwn, nodaf fod Manceinion Fwyaf wedi cyhoeddi ei bod yn cynnig am y World Expo, y gemau Olympaidd ar gyfer y byd busnes, os hoffech, nad yw wedi bod ar dir mawr Prydain ers y cyntaf, Arddangosfa Fawr 1851. Maent yn cystadlu, yn achos Expo 2025, yn erbyn Paris ac Osaka, ac nid yw’n sicr o gwbl y byddant yn llwyddo. Felly, a gawn ni edrych ar y posibilrwydd o gynnig enw Cymru am y slot nesaf sydd ar gael, sef 2027-28? Pa syniad a allai fod yn fwy cyffrous a grymus na’r Expo yn dychwelyd adref i fan geni’r chwyldro diwydiannol yma yng Nghymru?