<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:43, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ar thema syniadau mawr, lansiodd Sefydliad Bevan adroddiad pwerus ddoe a gyflwynai’r achos dros ddynodi ardal gyfan Cymoedd de Cymru yn ardal fenter. A oes cyfle i fynd gam ymhellach yma hyd yn oed a gofyn am ganiatâd gan Lywodraeth y DU i Gymru gyfan gael ei gwneud yn ardal fenter, ac i ni gael yr un pwerau dros y dreth gorfforaeth a gynigir i Ogledd Iwerddon, er mwyn i ni gael pwerau dros ryddhad treth mewn perthynas ag ymchwil a datblygu, a’r pwerau i gael toriadau yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, yn enwedig mewn ardaloedd fel Cymoedd de Cymru, lle y ceir heriau economaidd penodol, gan roi’r math o fantais gystadleuol sydd ei hangen ar Gymru os ydym am gau’r bwlch economaidd hanesyddol hwn rydym wedi’i wynebu ers cenedlaethau?