Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Am yr un rheswm ag a roddais eisoes, ni allwn roi unrhyw sicrwydd y buaswn yn gallu ariannu’r £160,000 yn llawn. Rwy’n siŵr fod yr Aelod yn deall y rheswm pam. Ni allaf wneud hynny am nad ydym wedi craffu ar y cais yn ddigon trylwyr eto. Ond o ran gorsafoedd, wel, mae hyblygrwydd wedi’i gynnwys yn y prosiect metro fel y gellir gwneud estyniadau ac fel y gellir addasu’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu, er enghraifft os bydd seilwaith cymdeithasol newydd yn cael ei ymgorffori yn ardal ranbarthol De-ddwyrain Cymru, yna gellir addasu map y metro yn unol â hynny. Felly, rwy’n cydymdeimlo â’r achos. Byddaf yn edrych ar y cais yn drylwyr, ond nid wyf mewn sefyllfa i gymeradwyo’r cais heddiw.