<p>Y Llinell Rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:59, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw. Gan ymhelaethu ar bwynt a wnaed yn dda gan Adam Price yn gynharach ynglŷn ag angen cymunedau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru i deimlo’u bod wedi integreiddio’n well ag ardaloedd llewyrchus de-ddwyrain Cymru, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y gallai ailadeiladu’r rheilffordd hon gyfrannu at hynny? Caewyd y rheilffordd ar adeg pan oedd pesimistiaeth enfawr ynglŷn â dyfodol teithio ar y rheilffyrdd ym Mhrydain yn y 1960au ac ni fuasai nifer fawr o’r penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â Beeching wedi cael eu gwneud pe bai pobl wedi gallu rhagweld y ffordd y mae’r diwydiant rheilffyrdd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Gan ei bod yn cymryd chwe awr i deithio o Aberystwyth i Gaerdydd ar y trên drwy Amwythig, buasai hyn yn torri’r amser teithio yn ei hanner. Ac yn ffodus, mae cynnydd mawr wedi bod yn y galw am deithio ar y rheilffyrdd: yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r defnydd o orsaf Aberystwyth wedi cynyddu 40 y cant yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf, er enghraifft. Buasai hyn yn rhoi gobaith gwirioneddol i ni o ailgysylltu rhannau o Gymru sydd efallai’n teimlo eu bod yn llawer rhy bell o’r ardaloedd lle yr ymddengys, ym meddyliau pobl gyffredin, fod gormod o fuddsoddi’n digwydd, gan fynd ar ôl y pwynt a wnaethoch eto ar ddechrau’r trafodion heddiw ynglŷn â sut roedd canlyniadau’r etholiad yn America ddoe a’r penderfyniad i adael yr UE mewn gwirionedd yn deillio i raddau helaeth o deimladau pobl eu bod yn cael eu heithrio a bod angen i ni wneud mwy i gysylltu pobl.