Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr iawn am y diweddariad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet—dylwn fod wedi dweud hynny’n gynharach. Ond yn 2012, rhoddodd y Llywodraeth £0.5 miliwn i Westy Castell Rhuthun, mwy na thair gwaith yn uwch nag unrhyw grant arall gan y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth y flwyddyn honno, a £5,000 yn unig o hwn sydd wedi’i adennill i drethdalwyr Cymru ar ôl i’r cwmni fethu â bodloni meini prawf y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth. Rwy’n derbyn yn yr enghraifft benodol hon fod yna anawsterau i adennill arian am fod y cwmni wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Ond mae hynny ynddo’i hun yn codi cwestiynau ynglŷn â’r trefniadau diogelu y mae Llywodraeth Cymru yn eu mynnu wrth roi’r grant Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth. Yr arian a gollwyd, dyna rywbeth y gallai busnesau eraill fod wedi ei ddefnyddio. Felly, a fyddwch yn ailbennu’r rheolau ar gyfer grantiau Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth er mwyn cael lledaeniad daearyddol ehangach ar gyfer creu swyddi, neu a ydych yn chwilio am ffyrdd gwahanol o leihau’r risg i drethdalwyr Cymru?