Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Wel, mater i Swyddfa Archwilio Cymru yw asesu unrhyw achosion y gallai Aelodau fod yn bryderus yn eu cylch. Mae’r enghreifftiau y mae’r Aelod wedi’u crybwyll yn faterion dadleuol, ac ni fuasem wedi dymuno unrhyw golledion i’r trethdalwr. Ond mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal ymchwiliad trylwyr o brosiectau y mae’n barnu eu bod er budd y cyhoedd, a buaswn yn disgwyl i’w gwaith barhau. Buaswn yn croesawu eu gwaith yn fawr iawn mewn perthynas ag unrhyw brosiect neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan fy ngoruchwyliaeth i.