Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Wel, mae cam 1 y metro eisoes ar y gweill, gyda chyfres o welliannau i orsafoedd ac i seilwaith rheilffyrdd. Rwy’n ymwybodol fod yr Aelod wedi mynegi ei farn ar y mater hwn ers 2007, ond rwy’n falch iawn fod hyn yn cael ei ddatblygu’n gyflym yn awr, ac edrychaf ymlaen at glywed yr Aelod yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar gyflwyno’r prosiect pwysig hwn.