Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Wel, buaswn yn cytuno y bydd trydaneiddio’r brif reilffordd o fudd i Gasnewydd, yn ddi-os. Bydd hefyd o fudd i Gaerdydd, ond buaswn hefyd yn disgwyl i’r gwaith gael ei ymestyn mewn modd amserol i Abertawe, ac rwy’n gobeithio y bydd newyddion cadarnhaol i’r perwyl hwnnw yn natganiad yr hydref. Buaswn yn annog Llywodraeth y DU—oherwydd rwy’n ymwybodol fod yna bellach nifer o achosion o oedi a phroblemau’n gysylltiedig â rhai o’r prosiectau y mae’n gyfrifol amdanynt—buaswn yn annog Llywodraeth y DU i ystyried trosglwyddo cyfrifoldeb am y seilwaith rheilffyrdd, yn ogystal â chyllid teg, i Lywodraeth Cymru ei gyflawni fel y gall ddod yn fwy ymatebol o ran yr hyn y mae teithwyr a chymunedau eu hangen.