Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch am eich ateb. Mi fyddwn i’n cytuno ein bod ni angen denu mwy, ond, wrth gwrs, maen nhw yn rhoi pwysau ar ein seilwaith trafnidiaeth ni, ac rŷm ni wedi gweld—mae yna etholwr wedi cysylltu â mi yn cyfeirio at dair achlysur yn y pythefnos diwethaf lle mae aelod o’i theulu wedi gorfod sefyll ar y trên yr holl ffordd o Wrescam i Gaerdydd, ac, ar un achlysur, yr holl ffordd o Wrecsam i Gasnewydd. Nawr, mae hynny’n ddigon anghyfleus, wrth gwrs, ond nid oedd e’n bosib cael mynediad i’r tŷ bach, ac mae yn codi cwestiwn ynglŷn â lles teithwyr, ond hefyd iechyd a diogelwch mwy cyffredinol teithwyr ar drenau sydd mor, mor orlawn.
Nawr, mae hi wedi’i hysgogi i ysgrifennu at yr Health and Safety Executive i ofyn iddyn nhw edrych ar y sefyllfa. O fod yn ymwybodol bod yna ddau ddigwyddiad chwaraeon rhyngwladol nodedig yn digwydd yng Nghaerdydd y penwythnos yma, pa sicrwydd a allwch chi ei roi bydd y gwasanaeth yn un diogel ac yn addas?