<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:45, 9 Tachwedd 2016

Diolch, Lywydd. Mae adroddiad beirniadol arall wedi cael ei gyhoeddi gan yr ombwdsmon heddiw i safon gofal yn Ysbyty Glan Clwyd. Y tro yma, claf canser a wnaeth orfod aros yn llawer rhy hir am driniaeth. Dyma’r trydydd adroddiad beirniadol gan yr ombwdsmon mewn dau fis. Mae’n digwydd, wrth gwrs, yn y cyd-destun ehangach fod bwrdd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Pam fod y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru wedi cyrraedd y pwynt lle rydym prin yn synnu wrth glywed newyddion fel hyn?