Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Dyna’r ateb cywir, Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.] Serch hynny, fe fyddwn i’n dweud, ymhlith trigolion Caerffili, nid yw rôl Ysbyty Ystrad Fawr wedi’i deall yn iawn. Mae’r ganolfan gofal arbenigol a chritigol sydd wedi’i phennu ar gyfer Cwmbrân, neu ger Cwmbrân—roedd Ysbyty Ystrad Fawr wedi’i gynllunio i’w wasanaethu. A gyda llaw, ni fyddwch byth fy nghlywed yn ei alw’n ‘ganolfan gofal arbenigol a chritigol’ byth eto ar ôl y tro hwn, oherwydd nid wyf yn credu bod hynny’n ei werthu i bobl yr ardal.
Gan gadw hyn mewn cof, yn ddiweddar cyfarfûm â phrif weithredwr a chadeirydd bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Yn dilyn y trafodaethau hynny, hoffwn weld canolfan ragoriaeth arall yn Ysbyty Ystrad Fawr, yn benodol ar ffurf canolfan ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau gofal y fron. Rwy’n credu y byddai honno’n gwella’r gweithgareddau sy’n digwydd yn Ysbyty Ystrad Fawr ymhellach, yn enwedig mewn perthynas â’r ganolfan gofal critigol a fydd yn agor ar y cyd â hi. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ychwanegu ei gefnogaeth i’r ymgyrch honno, ac ychwanegu unrhyw gymorth pellach y mae’n barod i’w roi?