Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Rwy’n falch o gydnabod y gwelliant yn y canlyniadau. Fodd bynnag, fe fyddwch yn ymwybodol fod adroddiad diweddar gan Bliss yn dangos mai dwy yn unig o 10 uned newyddenedigol oedd â digon o nyrsys i staffio’u cotiau yn unol â safonau cenedlaethol. Os methwch fynd i’r afael â’r mater hwn o ran nifer y nyrsys dan hyfforddiant fis Medi nesaf, yna oni fydd yn amhosibl i’ch Llywodraeth gyflawni’r ymrwymiad a wnaed gan y Prif Weinidog ar 13 Gorffennaf i staffio gwasanaethau newyddenedigol yng Nghymru yn briodol erbyn 2021? O ystyried hynny, tybed a allwch nodi pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd.