<p>Clefyd Seliag</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:12, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ydw. Nid oes unrhyw gynlluniau i newid y sefyllfa bresennol o ran bod eitemau o brif fwydydd megis bara ffres a phasta, fel y dywedais, ar gael ar bresgripsiwn. Mae fferyllfeydd cymunedol yn bwysig iawn am eu bod yn rhoi cyfle i bobl â chlefyd seliag brynu amrywiaeth eang o gynhyrchion, yn ogystal â’r hyn y maent yn ei gael ar bresgripsiwn. Mae hynny eto’n atgyfnerthu pwysigrwydd fferylliaeth gymunedol yn diwallu anghenion iechyd pobl â chlefyd seliag ac ystod eang o gyflyrau eraill.