Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n dda gen i agor y ddadl yma a bod gan gynifer o Aelodau Cynulliad ddiddordeb yn y ddadl ar yr adroddiad. Pwrpas y ddadl yw rhoi gerbron y Cynulliad yr adroddiad hwn gan ryw 56 o fudiadau gwahanol—cadwraeth, amgylcheddol, mudiadau anifeiliaid hefyd—ynglŷn â chyflwr natur yng Nghymru. Ac mae’r adroddiad yn un hawdd ei ddarllen ond yn anodd ei dderbyn, achos mae’r hyn mae’n ei ddweud am gyflwr ein hinsawdd a’n cynefin ni yn siomedig, a dweud y gwir, ac yn dweud llawer am y diffyg gofal sydd wedi bod dros y blynyddoedd, nid gan y Llywodraeth—nid beio’r Llywodraeth ydw i yn fan hyn—ond gennym ni i gyd fel cymdeithas, i beidio â chymryd hwn o ddifri.
Mae’r adroddiad yn darllen yn arswydus, mewn ffordd, i unrhyw un ohonom ni sy’n cofio cynefinoedd fel yr oedden nhw neu’n cofio gweld anifeiliaid gwyllt, neu’n dymuno jest bod ein plant a’n gorwyrion yn gallu gweld hynny. Mae un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru bellach ar y ffordd i drengi. Mae sawl un ohonyn nhw wedi eu cydnabod mewn deddfwriaeth Gymreig, o dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016, fel rhai sy’n flaenoriaeth i’w cadw, ond eto mae’r dirywiad yn syfrdanol. Ers 1970 mae rhywbeth fel 57 y cant o blanhigion gwyllt, 60 y cant o bili-palod a 40 y cant o adar wedi gweld dirywiad yn ein cefn gwlad a’n cynefinoedd ni. Ac o’r rhai rŷm ni’n eu hadnabod yn ein deddfwriaeth fel rhai sy’n flaenoriaeth i’w cadw, dim ond rhyw 40 y cant ohonyn nhw sy’n cael eu dosbarthu fel rhai sy’n sefydlog. Felly, mae gwir berig y byddwn yn colli anifeiliaid sy’n naturiol i Gymru ac wedi cael eu creu yn y cyd-destun Cymreig, a’n bod wedyn yn colli rhywbeth sy’n cyfrannu tuag at y byd a rhywbeth sy’n arbennig amdanon ni fel cenedl.
Yn y cyd-destun hwnnw, felly, mae pawb yn derbyn ein bod ni’n byw bellach mewn byd lle mae gweithgaredd dynoliaeth yn cael mwy o effaith, o bosib, ar y byd ac ar fyd natur na phethau naturiol. Mae rhai pobl am alw hynny’n ‘anthropocene’—oes newydd, cyfnod newydd, lle mae dynion yn fwy pwysig na grymoedd naturiol. Ac mae’n cael ei weld, efallai, yn y ffaith bod mynegai o fioamrywiaeth yn cael ei gyhoeddi, nid jest i Gymru ond i Brydain gyfan, fel rhan o’r adroddiad yma, a’r dybiaeth yw ein bod ni angen rhywbeth fel 90 y cant, yn ôl y mynegai yma, i ddangos bod yr ecosystemau sydd gennym ni yn ddigon cryf i gynnal bywyd gwyllt wrth fynd ymlaen, ac, yn sgil hynny, wrth gwrs, i gynnal bywyd ffyniannus i ddynoliaeth hefyd. Yn ôl y mynegai hwnnw, mae Cymru ar hyn o bryd yn sgorio 82.8 y cant. Nawr, mae hynny’n uwch na gwledydd eraill Prydain, sydd yn beth da, ond mae’n brin o’r 90 y cant sydd yn cael ei gydnabod fel y trothwy ar gyfer ecosystem gref ac mae hefyd yn golygu ein bod ni ymhlith yr 20 y cant gwaelod o’r 218 o wledydd sydd yn cymryd rhan yn yr arolwg hwn. Felly, mae’n amlwg bod yn rhaid inni wneud rhywbeth yn wahanol. Mae’n rhaid inni ymateb yn bositif i’r her a sicrhau bod yna fwy o waith yn cael ei wneud dros fioamrywiaeth a chadw ac ehangu, yn wir, rhai o’r rhywogaethau naturiol sydd gennym ni yng Nghymru.
Rwyf eisiau bod yn bositif yn y ddadl yma, er bod y darlun, efallai, yn eithaf du yn yr adroddiad. Mae’r ffaith ein bod ni, bellach, yn effeithio mwy ar fywyd gwyllt ac ar y cynefinoedd hefyd yn golygu bod gennym yma yr arfau i wneud rhywbeth ynghylch hynny, achos mae’n amlwg, os ŷm ni’n defnyddio technoleg mewn ffordd mwy clyfar, os ŷm ni’n byw’n fwy clyfar, os ŷm ni’n defnyddio’r hyn rŷm ni’n ei ddeall yn awr o fioamrywiaeth yn fwy clyfar, fe fedrwn ni weithredu er mwyn gwarchod ac ehangu yn y maes yma. Yn cydnabod hynny, mae yna ddwy Ddeddf, wrth gwrs, wedi’u pasio gan y Cynulliad hwn—y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016—sydd yn gosod allan nifer o amcanion sydd yn ychwanegu at y posibiliadau positif sydd gennym i wyrdroi’r sefyllfa anffodus bresennol.
Mae angen gweld arweiniad gan y Llywodraeth yn y maes yma. Mae angen gweld arweiniad clir o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn arbennig, rwy’n meddwl. Fe gyhoeddwyd amcanion, neu nodau, fe ddylwn ddweud—achos mae yna wahanol eiriau yn y Gymraeg a’r Saesneg yn y fan hyn—neu nodau llesiant, fel maen nhw’n cael eu hadnabod yn y Ddeddf, ddydd Gwener ddiwethaf. Un o’r rheini, rhif 12, yw rheoli defnyddio a gwella adnoddau naturiol Cymru i gefnogi llesiant hirdymor. Beth sy’n bwysig am y nod yna yw ei fod yn cydnabod bod cynnal a chryfhau amgylchedd naturiol cadarn, ac ynddo fioamrywiaeth ynghyd â systemau iach, yn helpu pobl, yn cyfrannu at iechyd, yn hwb i economi cynaliadwy, ac yn creu gwydnwch ecolegol a’r gallu i addasu i newid. Mewn geiriau eraill, mae edrych ar ôl bywyd gwyllt yn edrych ar ôl dynion hefyd, ac mae eisiau symud ymlaen ar sail hynny.
Rwyf eisiau cloi, cyn clywed gan Aelodau eraill ynglŷn â’u sylwadau nhw ar y ddadl yma, gydag enghraifft wael ac enghraifft dda o’r ffordd rŷm ni wedi mynd o gwmpas pethau’n ddiweddar yn y maes yma. Yn anffodus, mae’r penderfyniad i ganiatáu llusgrwydi cregyn bylchog eto ym mae Ceredigion, yn fy marn i, yn gam gwag ar hyn o bryd. Er ein bod yn chwilio am bysgodfa gynaliadwy o gregyn bylchog ym mae Ceredigion, nid wyf yn siŵr iawn bod gennym ni eto y wybodaeth am y cynefinoedd o dan y dŵr a sut y bydden nhw’n gwella pe bai llusgrwydo yn digwydd. Rwy’n gobeithio, o leiaf, y bydd y Llywodraeth yn monitro’n ofalus iawn, iawn effaith hynny ar y cynefinoedd o dan y dŵr, nid yn unig y cregyn bylchog eu hunain, sy’n cael eu bwyta, wrth gwrs, ond, yn fwy pwysig, yr effaith ar anifeiliaid prin sydd wedi’u gwarchod ym moroedd Cymru, yn arbennig y llamhidydd.
Ar ochr fwy positif, ddydd Gwener diwethaf, bues i’n ffodus iawn i fynd i Bontarfynach—lle hyfryd, yn enwedig yn yr hydref, ac wrth gwrs, y dirwedd sydd yn cael ei defnyddio ar gyfer ffilmio ‘Y Gwyll’, i’r rhai sydd yn ei gwylio. Roeddwn i yno i weld yr arbrawf i ailgyflwyno bele’r coed i gefnwlad Cymru. Dyma’r anifail a oedd wedi darfod o’r tir, i bob pwrpas, yng Nghymru, ond erbyn hyn mae yna 40 o’r anifeiliaid wedi cael eu gollwng yn ôl i gefnwlad Ceredigion. Maen nhw’n dod o’r Alban; mae croeso mawr iddyn nhw, achos maen nhw’n dod yn ôl â rhywbeth a oedd wedi mynd ar goll o fywyd ein cynefin naturiol. Yn sgil gollwng y rhain i mewn i Gymru, mae yna nifer o bethau diddorol wedi dod i’r amlwg. Yn gyntaf oll, maen nhw’n teithio’n bell—aeth un mor bell ag Abergele. Yn ail, maen nhw’n cadw’r niferoedd y wiwer lwyd i lawr. Felly, rŷm ni’n gweld, wrth gymryd rhywbeth a oedd yn ‘predator’ yn yr ecosystem a’u lladd nhw, rŷm ni wedi creu lle i wiwerod llwyd gymryd drosodd ein coedwigoedd ni. Felly, mae hynny’n enghraifft bositif—rhywbeth rŷm ni eisiau gweld mwy ohono.
Felly, mae yna neges besimistaidd, bron, yn yr adroddiad ei hunain, ond drwy ymgymryd, â’n dwylo ein hunain, â’r gwaith yma, rŷm ni’n gallu bod yn bositif i adfer ein bywyd gwyllt ni a sicrhau bod bioamrywiaeth yn ffynnu yng Nghymru.