Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am naws a natur gadarnhaol ei hymateb cynhwysfawr iawn? Ond a gaf fi hefyd ategu’r holl siaradwyr heddiw, llawer ohonynt, a’r rhai a ofynnodd am y ddadl hon, yn enwedig Simon Thomas, a gyfeiriodd at sut rydym yn byw yn yr oes anthroposen? Ond roedd natur gadarnhaol i’w gyfraniad, a oedd yn dweud os ydym yn dewis gwneud gwahaniaeth, fe allwn wneud gwahaniaeth. Dyna oedd y thema a ddaeth yn amlwg gan lawer o’r siaradwyr.
Cyffyrddodd Sian Gwenllian ar fater a ailadroddwyd gan Joyce Watson—sut rydym yn esbonio hyn i’r genhedlaeth nesaf oni bai ein bod stiwardio hyn yn iawn, oni bai ein bod yn gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac oni bai ein bod yn atgyweirio’r difrod i’n gwasanaethau ecosystemau fel y’u disgrifir yn yr adroddiad sefyllfa byd natur.
Canolbwyntiodd Vikki Howells yn gywir ar yr amgylchedd morol a’r gwaith y gellir ei wneud yno, oherwydd, yn aml iawn, rydym yn edrych ar y glesni mawr draw, a glesni mawr draw ydyw hefyd. Nid yw pobl yn edrych ar iechyd a lles yr ardal honno yn y ffordd rydym yn ei wneud mewn perthynas â’r amgylchedd naturiol ar y tir.
Cawsom ein hatgoffa gan Angela Burns am y rheidrwydd byd-eang ar ddiwrnod pan welwn hynny’n cael ei beryglu braidd mewn gwirionedd, gydag un o genhedloedd mwyaf a mwyaf gwych y byd yn dewis rhywun sy’n gwadu bodolaeth newid hinsawdd. Mae’n rhaid i ni weithio ddwywaith mor galed yn awr i gadw’r ysgogiad byd-eang i gyflawni ar fioamrywiaeth, newid hinsawdd ac yn y blaen.
Cawsom hefyd nifer o hyrwyddwyr yr amgylchedd naturiol yma heddiw—mae pob un ohonynt yn hyrwyddwyr—John Griffiths, hyrwyddwr llygoden y dŵr; Julie Morgan, y ffwng cap cŵyr; a Mark Isherwood, y gylfinir. Cawsom Rhun ap Iorwerth yn dweud pa mor ‘choughed’, yn wir, yr oedd i fod yma. [Chwerthin.] A Mark Reckless, Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd, amgylchedd a materion gwledig, yn gwbl gywir—nid wyf yn siŵr beth y mae’n ei hyrwyddo, ond fe hyrwyddodd yr angen i fonitro a gwerthuso cynnydd Llywodraeth Cymru yn annibynnol ar yr holl faterion hyn.
Nawr, rwy’n falch o fod yn hyrwyddwr y gornchwiglen yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac mae’r cwestiwn i ble’r aeth yr holl gornchwiglod yn crynhoi holl themâu mawr y ddadl hon yn ardderchog, gan nodi dirywiad a chwymp yr ymerodraeth wych flaenorol o fywyd yn y môr ac ar y tir, o blanhigion ac adar a glöynnod byw, dirywiad rhywogaethau a chynefinoedd, a thrasiedi colli bioamrywiaeth. Yn y blynyddoedd a fu, roedd cornchwiglod du a gwyn i’w gweld yn hedfan drwy gydol y flwyddyn ledled Cymru. Roeddent mor niferus â’r dolydd blodau gwyllt a’u cynhaliai. Yn awr, maent yn brin ac yn arbennig. Y gornchwiglen yw ein fersiwn fodern o ganeri’r glowyr. Mae eu tranc araf yn dangos i ni fod natur mewn trybini. Er eu mwyn hwy, ac er ein mwyn ninnau, mae angen i ni weithredu.
Nawr, i’r gornchwiglen, mae’r atebion i’w gweld mewn ffermio a rheoli’r dirwedd, ac mae angen rhoi sylw i hyn yn ein polisïau ar gyfer amaethyddiaeth, datblygu gwledig ac yn anad dim, yn y dirwedd ôl-Brexit hon. Mae arnom angen ffermio hyfyw, cymunedau gwledig hyfyw, a rhywogaethau a chynefinoedd hyfyw hefyd. Mae angen i ni ailfeddwl ein dull o gael y gorau oll o bob byd, gan adfer y gorau yn y byd hwn, lle rydym yn stiwardiaid ac nid yn feistri. Beth bynnag am adael yr UE, dylem fod yn edrych ar fyd newydd dewr, ac yn y byd newydd dewr hwn ni ddylai fod unrhyw wrthdaro rhwng cynnal ein gallu i dyfu bwyd a gofalu am y tir a’r natur y mae’n dibynnu arni. Mae’r cyntaf yn gwbl ddibynnol ar yr ail. Felly, gadewch i ni fachu ar y cyfle hwn i weithio tuag at ffermio deallus a chynaliadwy, rheoli’r dirwedd a rheolaeth amgylcheddol, lle rydym ni, y dinasyddion, yn buddsoddi mewn ffermio, nid yn unig mewn perthynas â bwyd a hyfywedd cymunedau gwledig ond drwy ddefnyddio arian cyhoeddus i gynhyrchu nwyddau cyhoeddus pendant, megis dŵr glân, atal llygredd, cynnal pridd iach, gofalu am natur, lliniaru ac addasu i newid hinsawdd, gan gynnwys ail-greu amddiffynfeydd llifogydd naturiol, megis gorlifdiroedd gyda glaswelltir gwlyb a choetir gwlyb.