Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch, Lywydd. Yn ystod wythnos y Cofio rydym yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch, ac yn credu y dylai Cymru fod ar flaen y gad wrth weithredu cyfamod y lluoedd arfog, sydd wedi’i fwriadu i wneud iawn am yr anfanteision y gall cymuned y lluoedd arfog eu hwynebu o gymharu â dinasyddion eraill, ac i gydnabod aberth y gymuned honno.
Amcangyfrifir bod 385,000 o aelodau cyfredol a blaenorol o gymuned y lluoedd arfog yn byw yng Nghymru. Yn ôl arolwg cartrefi y Lleng Brydeinig Frenhinol yn 2014, mae hyn yn cynnwys 310,000 o aelodau cyfredol a blaenorol o gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru, a 75,000 ychwanegol o blant. Mae ystadegau’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi awgrymu ymhellach fod yna 153,000 o gyn-filwyr ymhlith y boblogaeth hon.
Y cyntaf o Orffennaf oedd canmlwyddiant dechrau brwydr fwyaf gwaedlyd y rhyfel byd cyntaf—brwydr y Somme; 7 Gorffennaf oedd canmlwyddiant brwydr Coed Mametz, pan gerddodd milwyr traed o’r 38ain Adran (Gymreig) yn syth i mewn i ynnau peiriant yr Almaen o flaen coedwig, tua milltir o hyd, ger pentref bach Mametz. Roedd yn anrhydedd cael noddi Taith y Pabi y Lleng Brydeinig Frenhinol yma yr wythnos diwethaf, pan ymunodd Aelodau a staff y Cynulliad â chyn-filwyr, aelodau a staff y lleng i feicio’r pellter rhwng y Cynulliad a Choed Mametz i nodi cyfnod y Cofio. Llongyfarchiadau i Aelod penodol draw yno, y credaf mai ef oedd y cyflymaf—neu a lwyddodd i fynd bellaf mewn pum munud. Es i am reid hamddenol yn y wlad, ond dyna ni. [Chwerthin.] Ar y diwrnod hwn, 9 Tachwedd 1916, gan mlynedd yn ôl, dechreuodd brwydr Ancre, wrth i gam olaf brwydr y Somme ddod i ben. Erbyn 1918, roedd 280,000 o filwyr Cymreig wedi gwasanaethu yn y rhyfel byd cyntaf, a bu farw tua 40,000 ohonynt. Ar y diwrnod hwn 22 mlynedd yn ddiweddarach, dechreuodd yr Almaen hel 180,000 o Ffrancwyr allan o ardal Alsace-Lorraine a oedd wedi’i gorchfygu yn ail flwyddyn yr ail ryfel byd. Mae pobl hefyd wedi gwneud yr aberth eithaf yn Irac, Affganistan, y Falklands, Gogledd Iwerddon a Korea, i enwi ond ychydig. Am fod y gorffennol yn llywio’r dyfodol, na foed i ni byth anghofio hynny.
Galwn ar Lywodraeth Cymru i nodi bod Llywodraeth yr Alban wedi creu Comisiynydd Cyn-filwyr yr Alban yn 2014 i hyrwyddo anghenion cymuned y lluoedd arfog, ac i greu comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru, sy’n ymroddedig i wella’r canlyniadau i gyn-filwyr yn ogystal ag aelodau o’r lluoedd arfog sy’n gwasanaethu, a’u teuluoedd. Mae sefydlu comisiynydd y lluoedd arfog ar gyfer Cymru yn hanfodol er mwyn cefnogi anghenion penodol cyn-filwyr a chyflwyno’r rhain i Lywodraeth Cymru, ac i graffu’n briodol ar wasanaethau i gyn-filwyr a ddarparir gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru ac awdurdodau lleol. Byddai’r comisiynydd yn ymgysylltu â chymuned y lluoedd arfog, yn ogystal â’r holl wasanaethau cyhoeddus, ac yn hyrwyddo’r nifer o brosiectau trydydd sector allweddol sy’n cynorthwyo cyn-filwyr a’u teuluoedd, fel y gellir eu cynnal a’u cyflwyno’n genedlaethol, gobeithio, gan Lywodraeth Cymru, neu gyda’i chefnogaeth. Mae’r rôl hon wedi cael ei chefnogi a’i chymeradwyo gan gymuned y lluoedd arfog a phenaethiaid y lluoedd arfog. Nid ein syniad ni ydyw. Ei hyrwyddo a wnawn ar ran y gymuned honno a’r arbenigwyr sydd mewn sefyllfa dda i wybod.
Galwn ar Lywodraeth Cymru hefyd i gyflwyno asesiad o anghenion cyn-filwyr a fydd yn sail ar gyfer darparu gwasanaethau i sicrhau bod gan gyn-aelodau’r lluoedd arfog yr hawl i gael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu. Mae cyfamod y lluoedd arfog yn cyfeirio at y rhwymedigaethau ar y naill ochr a’r llall rhwng gwledydd y DU a’n lluoedd arfog. Cafodd ei egwyddorion eu hymgorffori yn y gyfraith gan Lywodraeth flaenorol y DU yn 2011, gan sicrhau nad yw cymuned y lluoedd arfog yn wynebu anfantais ormodol wrth ddefnyddio gwasanaethau megis tai ac iechyd. Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi sefydlu cyfamod cymunedol y lluoedd arfog, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ethol aelod i fod yn hyrwyddwr y lluoedd arfog, ond mae angen mwy.
Wrth arwain dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyn-filwyr yma ym mis Gorffennaf, rhoddais enghraifft o etholwr a oedd wedi cael diagnosis ar ôl ei ryddhau o’r fyddin o anhwylder straen wedi trawma cronig a chymhleth yn ymwneud â’i wasanaeth. Roedd wedi ceisio cyflawni hunanladdiad ym mis Mawrth ar ôl i sawl ymdrech i sicrhau ymyrraeth briodol ar ran GIG fethu dro ar ôl tro. Yn dilyn fy ymyriad, addawodd ei dîm iechyd meddwl cymunedol y byddai’n gweld cydgysylltydd gofal o fewn pedair wythnos. Fodd bynnag, pan ofynnwyd i mi ymweld ag ef eto ddau fis yn ddiweddarach, nid oedd wedi clywed dim. Wel, y wybodaeth ddiweddaraf am y stori hon yw mai dim ond ar ôl i mi ymyrryd eto ar lefel uchaf y bwrdd iechyd y pennwyd cydgysylltydd gofal ar ei gyfer. Er gwaethaf ymrwymiad clir yr awdurdodau lleol a GIG Cymru i ddarparu cymaint o wasanaethau wedi’u teilwra ag y bo modd i’r lluoedd arfog, mae gwaith achos y Ceidwadwyr Cymreig—a gwaith achos yr holl bleidiau eraill, yn ddi-os—yn darparu tystiolaeth nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell.
Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwella’u prosesau casglu data er mwyn sefydlu beth yw anghenion iechyd cyn-filwyr, canfod pa gymorth sydd ei angen ar eu teuluoedd a’u gofalwyr, llywio darpariaeth gwasanaethau a chomisiynu, a thynnu sylw at yr ymgysylltu sydd ei angen â phobl yn y lluoedd arfog, sy’n gwasanaethu a/neu wrth iddynt drosglwyddo i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog. Mewn gwirionedd, dyma’n union roedd adroddiad ‘Call to Mind: Wales’ a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Forces in Mind ac yn seiliedig ar gyfweliadau gyda chyn-filwyr a’u teuluoedd a phobl sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol ac annibynnol, yn galw amdano ym mis Mehefin. Mae’r adroddiad hefyd yn galw am gynyddu capasiti GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan nodi bod angen gwneud llawer mwy i gefnogi anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr yng Nghymru. Mehefin 2016. Pwysleisir yr angen am wella prosesau casglu data ymhellach gan ymgyrch ‘Count Them In’ y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy’n galw am gynnwys cwestiynau ar gymuned y lluoedd arfog yng nghyfrifiad nesaf y DU. Fel y maent yn dweud, amcangyfrifir bod rhwng 6.5 miliwn a 6.7 miliwn o aelodau o gymuned y lluoedd arfog yn byw yn y DU ar hyn o bryd, sef oddeutu un rhan o ddeg o’r boblogaeth. Ond ychydig a wyddys am union nifer, lleoliad ac anghenion y grŵp sylweddol hwn.
Pan dynnais sylw Ysgrifennydd y Cabinet at hyn ym mis Gorffennaf, dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r egwyddor, ond credai y gallai roi personél y lluoedd arfog mewn perygl. Fodd bynnag, fe addawodd hefyd y byddai grŵp arbenigol yn edrych ar y mater, ac rwy’n gobeithio clywed mwy ganddo ar hynny heddiw. Yn wir, gallai fod hyd at 0.25 miliwn o gyn-filwyr yng Nghymru ond heb y data hwn, ni allwn gynllunio ar gyfer y capasiti sydd ei angen ar y GIG, comisiynu’r gwasanaethau ehangach sy’n angenrheidiol, na darparu’r cymorth y mae teuluoedd a gofalwyr yn dibynnu arno, ac ni allwn gyflawni’r addewid a wnaed gan gyfamod y lluoedd arfog y bydd y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.
Byddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 3 Plaid Cymru a chymeradwyaf waith sefydliadau megis 65 Degrees North, sy’n helpu gydag adferiad cyn-filwyr a anafwyd neu a niweidiwyd drwy gynnig cyfle i gymryd rhan mewn antur heriol. Mae’r prosiect wedi cael cefnogaeth gan Ddug a Duges Caergrawnt, cronfa Endeavour y Tywysog Harry a chyllid LIBOR cyfamod y lluoedd arfog Llywodraeth y DU, sydd hefyd wedi darparu cyllid i wasanaethau Newid Cam CAIS Cymru i gyn-filwyr, gan roi cefnogaeth gan gymheiriaid wedi’i deilwra i gyn-filwyr ac ymyrraeth arbenigol ar draws Cymru, ac i Gymdeithas Tai Dewis Cyntaf i gefnogi Cartrefi Cymru ar gyfer Cyn-filwyr—Alabaré.
Ar ôl arwain y ddadl gyntaf yma yn galw am fabwysiadu cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru, ac ar ôl ymgyrchu ar faterion yn amrywio o salwch meddwl yn ymwneud â gwasanaeth i ddiystyru pensiwn anabledd rhyfel yn llawn, rwy’n croesawu rhai o’r camau dilynol a roddodd Llywodraeth Cymru ar waith. Fodd bynnag, mae angen llawer mwy a byddwn yn ymatal ar welliant 4 Llywodraeth Cymru yn unol â hynny. Mae’n cyfeirio at ddatblygu ‘llwybr tai’ ar gyfer cyn-filwyr a’u teuluoedd. Ond fel y dywedais ddoe, cefais gyngor dibynadwy mai’r cyfan y mae hwn yn ei wneud yw cadw manylion am yr hyn y mae gan rywun hawl iddo neu nad oes ganddynt hawl iddo eisoes mewn un man, ac nid yw’n cynnig unrhyw beth newydd mewn gwirionedd, a bod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau hyfforddiant i staff rheng flaen yn ei gylch.
Yn hytrach na £585,000, mae GIG Cymru i Gyn-filwyr wedi datgan wrth bwyllgor y lluoedd arfog yma—y grŵp trawsbleidiol—fod angen £1 filiwn y flwyddyn arnynt i ddiwallu anghenion iechyd meddwl sylfaenol cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. Er bod llythyr a anfonwyd ataf ym mis Awst gan Lywodraeth Cymru yn nodi bod rhwng 60 a 65% yn ateb y meini prawf ar gyfer anhwylder straen wedi trawma gydag amser rhwng atgyfeirio ac apwyntiad cyntaf yn 42 diwrnod ar gyfartaledd, mae hyn y tu allan i darged Llywodraeth Cymru o 28 diwrnod ar gyfer amseroedd rhwng atgyfeirio o ofal sylfaenol i asesu, ac roedd amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth hyd at 38 wythnos y mis diwethaf ar draws y tri bwrdd iechyd y mae gan GIG Cymru i Gyn-filwyr ystadegau ar eu cyfer. Er bod llythyr Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn disgwyl i therapyddion helpu ei gilydd ar draws ffiniau byrddau iechyd os oes salwch neu absenoldeb, dywedir wrthyf fod yr ôl-groniad y byddai hyn yn ei greu yn y byrddau iechyd eraill yn ei wneud yn amhosibl.
Mae llythyr Llywodraeth Cymru yn dweud y gallai gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ddiwallu anghenion gofal rhai cyn-filwyr, ond rwy’n cael ar ddeall bod gan y rhan fwyaf o gleifion GIG Cymru i Gyn-filwyr anghenion bioseicogymdeithasol cymhleth sydd angen triniaeth a chymorth GIG Cymru i Gyn-filwyr.
Fel y mae ymateb y Lleng Brydeinig Frenhinol i’r ymgynghoriad ar ddogfen ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ newydd Llywodraeth Cymru yn ei ddatgan, ac rwy’n dyfynnu, nid yw’r cynllun cyflawni ar hyn o bryd yn mynd i’r afael â’r pecyn cyflawn o anghenion gofal iechyd meddwl ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog, ac ni fydd yn darparu’r lefel gywir o fesurau arweinyddiaeth neu berfformiad i fynd i’r afael yn ddigonol ag anghenion cyn-filwyr Cymru na’u teuluoedd yn y dyfodol ac mae hefyd yn dweud:
dylai’r ddogfen adleisio’r bwriadau yng nghyfansoddiad GIG Lloegr.
Cymeradwyaf y cynnig hwn yn unol â hynny.