Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch, Lywydd, ac rwy’n codi i siarad i’r cynnig yma yn enw Plaid Cymru. Nawr, y bwriad, wrth gwrs, wrth ddod â’r ddadl yma gerbron heddiw yw nid cwestiynu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r targed yma o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, na chwaith amau’r consensws rydw i’n siŵr sydd yn bodoli yn y Cynulliad yma i weithio tuag at y nod hwnnw. Ond un o fwriadau gosod y ddadl yma gerbron y Cynulliad y prynhawn yma yw tynnu sylw at, neu danlinellu, efallai, anferthedd yr ymdrech sydd ei angen i ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg mewn cwta 30 mlynedd. Hynny yw, mae’n gynnydd, am wn i, na welwyd mo’i fath yn hanes yr iaith Gymraeg, a chynnydd, felly, a fydd yn heriol iawn i ni i gyd, boed yn siaradwyr Cymraeg neu yn ddi-Gymraeg. Mae’n siwrnai a fydd yn mynnu ei bod ni’n gweithredu mewn modd, yn sicr, sy’n greadigol ac yn gwbl benderfynol, ac uwchlaw pob dim, am wn i, mewn modd dewr hefyd. Os bydd y Llywodraeth yn dangos y nodweddion hynny wrth weithio tuag at y nod yma o filiwn o siaradwyr Cymraeg dros y blynyddoedd nesaf, yna mi fyddwn ni’n sicr ar y meinciau yma yn hapus i ddod gyda chi ar y siwrnai honno.
Nawr, mae’r ymgynghoriad diweddar ar strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru, sef miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn cynnwys llawer o ddatganiadau positif am y nod a sut i’w chyrraedd. Un o’r agweddau canolog i’r strategaeth, wrth gwrs, a’r ffactor mwyaf allweddol yn fy marn i, a phwynt arall y ddadl hon, wrth gwrs, yw cydnabod y rhan bwysig sydd gan addysg i’w chwarae yn yr ymdrech honno. Fel mae’r strategaeth ddrafft yn ei ddweud,
‘Mae angen cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael addysg Gymraeg ac sydd â sgiliau Cymraeg, am mai ond drwy alluogi rhagor o bobl i ddysgu Cymraeg y bydd modd cyrraedd miliwn o siaradwyr.’
Nawr, nid yw’r drefn bresennol yn hyrwyddo a chefnogi addysg Gymraeg yn ddigonol i gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r ystadegau’n dangos bod cwymp wedi bod yn y ganran o blant saith oed a oedd yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg rhwng 2013 a 2014, ac yna dim newid rhwng 2014 a 2015—22.2 y cant yw’r ffigur diweddaraf. Mi fu cynnydd yn nifer absoliwt y plant, ond cwymp yn y ganran, a’r gwir yw bod y ffigur wedi bod yn fflat ers ambell flwyddyn, yn amrywio o ychydig o dan 22 y cant yn 2010 i ychydig dros 22 y cant heddiw.
Nawr, nid wyf i’n ystadegydd, ond os ydym ni am ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg, yna, wrth gwrs, byddai rhywun yn disgwyl bod angen dyblu’r lefel yma o rai sy’n dewis addysg Gymraeg, er enghraifft. Os gallwn ni godi nifer y disgyblion blwyddyn 2, sef y cohort saith oed yna sy’n cael eu hasesu yn Gymraeg iaith gyntaf, o 22 y cant i, dywedwch, 50 y cant, fe fyddai hynny’n cynrychioli tua 10,000 plentyn ychwanegol yn seiliedig ar niferoedd 2015. Byddai’n golygu darparu dros 300 o ddosbarthiadau cyfrwng Cymraeg ychwanegol ar draws Cymru, a hynny i blant saith oed.
Dyna faint yr her, a dyna faint yr ymdrech sydd ei angen. Ac, wrth gwrs, fe allwch chi luosogi hynny, wedyn, ar draws y blynyddoedd cynnar, addysg gynradd, addysg uwchradd, addysg bellach, addysg uwch, dysgu gydol oes, ac yn y blaen. Mae’r blynyddoedd cynnar yn hanfodol, oherwydd y cynharaf y mae plentyn yn cael cyffyrddiad â’r iaith, y mwyaf o gyfle sydd ganddo ef neu ganddi hi i ddod yn rhugl. Nid fy ngeiriau i yw’r rheini, ond geiriau’r Llywodraeth yn ei strategaeth ddrafft, ac, yn naturiol, rwy’n cytuno â hynny. Yn anffodus, wrth gwrs, mae lefelau trosglwyddo’r iaith rhwng rhieni a’u plant yn gymharol isel. Yn 2015 dim ond 6.5 y cant o blant pump oed oedd yn siarad Cymraeg yn rhugl gartref, a hynny lawr o 7 y cant yn 2012. Rŷm ni’n ddibynnol, felly, ar y gyfundrefn gofal ac addysg gynnar i sicrhau bod plant yn cychwyn ar y siwrne yna i ddod yn ddwyieithog, gan nad yw hynny yn digwydd yn naturiol yn y cartref. Enillwch chi nhw’n gynnar i’r iaith Gymraeg, ac mae’r tebygrwydd y byddan nhw’n tyfu i fedru ac i arddel y Gymraeg lawer iawn, iawn yn uwch. Mae 86 y cant o blant sy’n mynychu grwpiau neu gylchoedd meithrin Cymraeg yn trosglwyddo i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, ac mae mwyafrif y rhai sydd ddim, wrth gwrs, ddim yn gwneud hynny oherwydd nad oes yna ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i drosglwyddo iddo fe yn aml iawn.
Nawr, mae yna gyfle godidog wedyn, wrth gwrs, yn codi yn sgil cytundeb y Llywodraeth a Phlaid Cymru ar ehangu gofal plant fel modd i gyflawni llawer o’r hyn rŷm ni am ei weld yn digwydd. Ac fe ddywedais i ddoe, mewn ymateb i ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar y polisi yna, ac, yn wir, yn sgil tystiolaeth a roddodd ef i’r pwyllgor yr wythnos diwethaf, lle’r oedd yn dweud y byddai am sicrhau bod y polisi yma yn ymateb i’r galw—fe ddywedais i, wrth gwrs, bod yn rhaid inni symud i ffwrdd o’r agwedd yna, mewn gwirionedd. Mae cyflwyno’r targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg yn gorfod bod yn gyfystyr â datgan bod y dyddiau o ddim ond ymateb i’r galw wedi mynd. ‘Approach’ y gorffennol yw bod yn adweithiol bellach, yn y cyd-destun yma. Mae’n rhaid i holl feddylfryd y Llywodraeth, awdurdodau addysg a phawb arall newid yn sylfaenol i fod yn un rhagweithiol o hyn ymlaen, a chreu’r galw trwy hyrwyddo, annog, a chreu darpariaeth ac isadeiledd i gyd-fynd, wedyn, wrth gwrs, â hynny. Fel y dywedodd Cymdeithas yr Iaith, fefyddai’n cymryd mwy nag 800 mlynedd i bob plentyn dderbyn addysg Gymraeg pe bai’r patrwm o dwf presennol yn parhau. Ac nid wyf, yn sicr, yn mynd i fod yn setlo am hynny.
Nawr, mae sicrhau gweithlu priodol ar gyfer addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg, wrth gwrs, yn hollbwysig i lwyddiant y strategaeth—rhywbeth sy’n cael ei gydnabod gan y Llywodraeth, pan maen nhw’n dweud bod hynny, wrth gwrs, yn golygu cynllunio er mwyn cefnogi athrawon dan hyfforddiant a chynorthwywyr dysgu, ehangu cynlluniau sabothol ar gyfer y gweithlu presennol, a chynyddu’n sylweddol nifer y gweithwyr yn y sector gofal plant a’r blynyddoedd cynnar. Mae’r Llywodraeth, wrth gwrs, yn cyhoeddi eu cynllun 10 mlynedd ar gyfer gweithlu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant yn y gwanwyn. O’r holl gynlluniau fydd yn cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth all ddylanwadu ar ddyfodol y Gymraeg, mae hwn, yn fy marn i, yn un o’r rhai mwyaf allweddol. Ac mi fydd hwn hefyd, i bob pwrpas, i fi, yn brawf o ba mor o ddifri y mae’r Llywodraeth yma o ran gwireddu eu nod o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg.