Part of the debate – Senedd Cymru am 6:34 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Wel, mae’n drueni nad yw’r Aelod yn cofio’r ffaith ein bod ni wedi codi hyn yn y Siambr rai wythnosau yn ôl, ansawdd dysgu ail iaith, a bod y Gweinidog ei hunan wedi gwneud datganiad clir ynglŷn â’r cyfeiriad y mae’r Llywodraeth yn teithio iddo fe yn y maes yna. Nid wy’n mynd i ddefnyddio fy amser nawr, gan fod hynny’n fater sydd wedi cael ei drafod yn flaenorol, ond yn sicr mae yna gydnabyddiaeth ac mae yna symud ar y ffrynt yna i fynd i’r afael â hynny.
Nawr, rwy’n byw yn y gogledd-ddwyrain, lle y gwelon ni, wrth gwrs, yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yn cael ei sefydlu yn ôl yn y 1950au, lle bu’n rhaid i bobl frwydro, fel mewn nifer o ardaloedd yn y 1960au a’r 1970au, am addysg Gymraeg, ond nid yw’r frwydr yna, wrth gwrs, ar ben. Mewn siroedd fel Wrecsam, sir Ddinbych a sir y Fflint, rŷch chi’n gweld brwydrau’n digwydd, nid yn unig i ehangu’r ddarpariaeth ond i amddiffyn y ddarpariaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd. Yn Wrecsam, mae’r galw cynyddol am addysg Gymraeg wedi arwain at rieni, mewn rhai sefyllfaoedd nawr, yn methu cael eu plant i mewn i, er enghraifft, Ysgol Bro Alun, er mai dim ond tair blynedd yn ôl yr agorwyd yr ysgol yna i gwrdd â’r angen yn ardal Gwersyllt. Mae pob ysgol gynradd Gymraeg yn llawn dop yn y sir, ond nid oes dim bwriad codi ysgol newydd. Mae’r unig ysgol uwchradd Gymraeg yn wynebu her enfawr gyda’r disgwyl y bydd dros 1,400 o blant yno erbyn 2024. Wrth edrych ar gynllun addysg iaith y sir tua’r dyfodol, nid oes dim cydnabyddiaeth bod y galw heb ei ateb a bod angen mwy o leoedd.
Yn sir y Fflint, a fu unwaith mor flaengar yn y maes yma, roedd yna fygythiad diweddar i Ysgol Gymraeg Mornant, yr unig ysgol Gymraeg yng ngogledd y sir, a oedd o dan fygythiad o gau. Pe bai hynny wedi digwydd, byddai wedi golygu bod rhaid teithio i Dreffynnon ar gyfer addysg Gymraeg, gan fod ysgol Gymraeg Prestatyn yn llawn. Y gwir yw, wrth gwrs, mai dim ond 5 y cant o blant y sir sydd yn derbyn addysg Gymraeg—ffigur sydd wedi aros yn ei unfan ers blynyddoedd lawer, ac mae hynny, rwy’n gwybod, yn destun siom i nifer.
Yn sir Ddinbych—ac mi wnaf ddatgan budd fel rhiant a llywodraethwr yn Ysgol Pentrecelyn—mae yna frwydr wedi bod i amddiffyn statws iaith y ddarpariaeth i’r plant yna, ac roedd hi’n destun pleser i mi ddarllen y papurau sydd yn cael eu gosod gerbron y cabinet wythnos nesaf a oedd yn argymell nawr i gynnal y ddarpariaeth yna. Ond, wrth gwrs, mae hynny wedi bod yn ganlyniad brwydr ac ymgyrch a her farnwrol.
Nawr, dyna fy mhrofiad i yn y gogledd-ddwyrain; bydd profiadau gwahanol gan bawb fan hyn. Mae yna brofiadau positif, wrth gwrs, ac rŷm ni’n gallu cyfeirio at nifer ohonyn nhw yng Ngwynedd, yn sir Gaerfyrddin ac mewn rhannau eraill o Gymru. Ond y neges yw, wrth gwrs, bod cynllunio yn bwysig, a bod sicrhau cynlluniau strategol addysg Gymraeg cryf yn bwysig hefyd i yrru’r ddarpariaeth yma yn ei blaen.
Bydd fy nghyd-Aelodau i yn ymhelaethu ar sawl agwedd arall. Rŷm ni’n gwybod am addysg bellach, addysg uwch, ac addysg gydol oes hefyd—mae’n rhaid inni beidio ag anghofio am y ddarpariaeth bwysig honno. Ond dim ond un agwedd o’r ymdrech i greu 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg yw’r maes addysg, ond mae’n agwedd gwbl, gwbl greiddiol. Fe welwn ni, rwy’n meddwl, dros y misoedd nesaf pa mor o ddifri yw’r Llywodraeth yma mewn gwirionedd o safbwynt cyrraedd y nod hwnnw. Ac fel y dywedais i ar y cychwyn, os bydd y Llywodraeth yn dangos y parodrwydd i fod yn greadigol, yn benderfynol ac yn ddewr, yna fe fyddaf i, a nifer ohonom ni, rwy’n siŵr, yn hapus i fod ochr yn ochr â’r Llywodraeth ar y daith honno.