9. 7. Dadl Plaid Cymru: Addysg Cyfrwng Cymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:11 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 7:11, 9 Tachwedd 2016

Diolch yn fawr, Lywydd, a diolch am y cyfle i ymateb i’r drafodaeth yma. Roeddwn i’n gwrando ar gyfraniadau o bob rhan o’r Siambr, ac roeddwn i wedi ysgrifennu ar fy nodiadau yn fan hyn i ddiolch i Blaid Cymru am y ffordd roedd Llyr wedi agor y drafodaeth, ac roeddwn i wedi ysgrifennu hefyd i ddiolch am y ‘sens’ o gonsensws sydd ym mhob rhan o’r Siambr. [Chwerthin.] So, o leiaf rydw i’n gallu cael fy nghyhuddo o fod yn dipyn bach o optimist, ambell waith. A gaf i ddweud hyn? Achos rydw i yn credu, pan fyddem ni’n trafod yr iaith a’n diwylliant ni, bod hi’n bwysig ein bod ni’n chwilio am gonsensws ac nid yn chwilio am y pethau sy’n ein rhannu ni, ac rydw i’n gwybod bod llefarydd Plaid Cymru yn cytuno â hynny. Rydw i hefyd yn cydnabod y tôn o ran y ffordd roedd Llyr wedi agor y drafodaeth yma, a hefyd yr her. Dechreuodd e ei gyfraniad gyda her i mi a’r Llywodraeth, ac mi wnaeth e bennu ei gyfraniad gyda’r un her. ‘A ydych chi o ddifrif?’ oedd y cwestiwn a ofynnodd. Ac a gaf i ddweud hyn? Mi ydw i o ddifrif ac mi ydym ni fel Llywodraeth o ddifrif. Rydym ni yn mynd i ddangos hynny nid jest trwy eiriau wrth gloi trafodaeth fan hyn, yn y Cynulliad, ond hefyd o ran sut rydym ni’n gweithredu yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.

Mi wnaethom ni osod targed o 1 miliwn o siaradwyr, a phan fyddem ni’n sôn am siaradwyr, rŷm ni’n sôn am bobl sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg, nid jest yn siarad Cymraeg pan fo angen ambell waith. Mi wyt ti, Mike, yn un o’r 1 miliwn yma, ac roeddwn i’n croesawu pob un o’r sylwadau a wnest ti yn ystod dy gyfraniad di, a hefyd y cyfraniadau positif amboutu sut ydym ni’n symud yr agenda ymlaen. Rydw i’n credu bod hynny’n beth pwysig, ac mae’n rhywbeth rydym ni’n mynd i’w wneud. So, rydym ni’n cydnabod yr her sydd yn ein hwynebu ni—rydym ni’n cydnabod yr her sy’n ein hwynebu ni ac rydym ni’n gwybod lle rydym ni heddiw. Nid ydym ni’n mynd i gwato o’r gwir neu osgoi wynebu’r realiti o ran lle’r ydym ni. Nid ydym ni’n mynd i wneud hynny. Ond nid ydym ni’n mynd i ailadrodd yr un fath o drafodaeth ag yr ydym ni wedi ei chael. Rydym ni’n mynd i weithredu. A dyna pam rydym ni’n cymryd amser i drafod â phobl ar draws ein gwlad ar hyn o bryd, ac mi fyddwn ni, pan fyddem ni’n dod i gyhoeddi’r strategaeth yn y gwanwyn, yn cyhoeddi strategaeth fydd yn glir, bydd gyda thargedau, targedau clir, ar gyfer y gweithgareddau rydym ni’n mynd i’w gwneud yn ystod y blynyddoedd nesaf, a thargedau clir amboutu sut rydym ni’n mynd i gyrraedd y targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Rydym ni’n cydnabod bod yna her, fel y mae Suzy Davies wedi ei ddweud, ac eraill, o’r blynyddoedd cynnar i’r sector ôl-16. Mae’n rhaid i ni gymryd camau bwriadus i gynyddu’r ddarpariaeth os ydym ni am weld y weledigaeth. Mae pob un o’r siaradwyr y prynhawn yma wedi sôn amboutu pwysigrwydd addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym yn cydnabod bod yn rhaid cryfhau y prosesau cynllunio strategol ar gyfer pob cyfnod addysg a hyfforddiant, sydd yn hollbwysig os ydym ni yn mynd i lwyddo. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg gan awdurdodau lleol y mis nesaf. Mae Sian Gwenllian wedi pwysleisio pwysigrwydd hyn, ac rydym yn cydnabod hynny ac rydym yn cytuno â chi bod yn rhaid i’r cynlluniau yma fod o ddifri, bod yn rhaid iddyn nhw fod yn gryf a bod yn rhaid iddyn nhw fod yn uchelgeisiol. Os nad ydyn nhw yn uchelgeisiol, ac os nad ydyn nhw yn ein helpu ni i gyrraedd y targed, fyddwn ni ddim yn eu derbyn nhw. Rydym yn glir am hynny. Rydym yn siarad ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol i osod targedau a fydd yn ein galluogi ni i gyrraedd y nod.

Rydym hefyd eisiau gweld twf mewn addysg Gymraeg, a sicrhau bod yna weithlu digonol gennym ni i’n galluogi ni i wneud hynny. Roeddwn yn croesawu’n fawr iawn geiriau Suzy Davies pan roedd hi’n sôn amboutu pwysigrwydd hyfforddiant cychwynnol trwy gyfrwng y Gymraeg, ac hefyd mwy o athrawon sy’n gallu manteisio ar y cynllun sabothol i ddatblygu sgiliau yn yr iaith Gymraeg. Rydym yn cydnabod bod hynny yn digwydd, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni gynyddu hynny ac rydym yn mynd i wneud hynny. Rydym hefyd eisiau gweld mwy o ddysgwyr mewn addysg bellach ac mewn addysg uwch yn gallu parhau eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, neu yn y ddwy iaith, ac mi fyddwn ni yn datblygu cyfleoedd i wneud hynny. Mae pob un Aelod yn ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet Kirsty Williams wedi sefydlu gweithgor i adolygu gweithgareddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn ystyried a ddylai rôl y Coleg ymestyn i’r sector ôl-16. Mae’r gweithgor wedi cael ei sefydlu, ac mi fydd y gweithgor yn adrodd nôl i’r Ysgrifennydd Cabinet yr haf nesaf. Mi fyddwn ni wedyn yn ystyried sut rydym ni’n gallu symud hynny ymlaen. Nid wyf eisiau rhagdybio casgliadau’r grŵp, ond rwy’n sicr bod yn rhaid i ni gymryd y gwaith yna o ddifri a bod yn rhaid i ni symud yn glou iawn unwaith rydym yn derbyn eu hadroddiad nhw.

A gaf i ddweud hyn? Rydym yn cydnabod ei fod yn siomedig nad ydym wedi cyrraedd ein holl dargedau erbyn hyn, ond hefyd mae gennym ni ffocws clir ein bod ni’n mynd i symud at osod targedau a fydd yn gallu bod yn rhan o strategaeth ehangach, ac a fydd yn sicrhau ein bod ni’n cyrraedd y targed o 1 miliwn siaradwyr erbyn 2050. Rydym yn mynd i wneud hynny yn ystod y misoedd nesaf, ac mi fydd yna dargedau clir yn cael eu cyhoeddi yn ystod y gwanwyn nesaf.

Rydym yn derbyn yr ail welliant ynglŷn â phwysigrwydd gwella’r modd mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu ac yn cael ei defnyddio mewn gweithleoedd. Rwy’n cydnabod y geiriau mae Dai Lloyd wedi eu defnyddio amboutu pwysigrwydd hyn, ac mi fyddwn ni yn gwneud pob dim rydym yn gallu i sicrhau bod cyrff sy’n darparu gwasanaethau, a busnesau, yn gallu gwneud hynny yn y Gymraeg hefyd.

Rydym yn meddwl bod yna gytundeb a chonsensws rownd y Siambr—nid consensws cosy ond consensws clir, a chonsensws sy’n seiliedig ar weledigaeth; gweledigaeth o le ein hiaith ni a’n diwylliant ni yn nyfodol ein gwlad ni. Rwy’n cytuno gyda Dai Lloyd pan oedd yn sôn am ailadfer y Gymraeg a sicrhau bod yna le i’r Gymraeg ym mhob rhan o’n cymunedau ni, lle bynnag rydym ni’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Mi fyddwn ni yn arwain y consensws yma. Mi fyddwn ni yn sicrhau bod y consensws yn gonsensws cryf sy’n seiliedig ar wreiddiau cryf, ac mi fyddwn ni’n sicrhau bod y consensws yma yn arwain gweledigaeth gref a gweledigaeth glir ar gyfer yr iaith Gymraeg a dyfodol yr iaith Gymraeg.