Part of the debate – Senedd Cymru am 7:19 pm ar 9 Tachwedd 2016.
A gaf i yn y lle cyntaf ddiolch i bawb am eu cyfraniadau? Mi fyddwn ninnau fel plaid hefyd yn cefnogi yr ail welliant. Fyddwn ni ddim yn cefnogi’r gwelliant cyntaf—dyna ddiwedd ar y consensws yn syth—am union yr un rhesymau ag esboniodd Suzy Davies, a dweud y gwir. Nid ydym yn anghydweld â’r hyn sydd yn y gwelliant, ond, wrth gwrs, mi fyddai fe yn dileu yr ail bwynt yn y cynnig, ac nid wyf yn meddwl bod angen gwneud hynny.
Fe’n hatgoffwyd ni ein bod ni’n sôn am greu rhyw 15,000 o siaradwyr Cymraeg newydd bob blwyddyn i gyrraedd y nod yna—dyna i chi 1,000 o dimau rygbi bob blwyddyn, gyda pholisi gwell na pholisi iaith Undeb Rygbi Cymru, gobeithio. Ond mae yn mynd i gymryd gweledigaeth, targedau, rhaglenni a strategaethau—wrth gwrs ei fod—ac mae’r Gweinidog ei hun wedi cydnabod efallai fod y cynlluniau strategaeth addysg Gymraeg, sy’n amserol nawr, wrth gwrs, oherwydd bod yr ymgynghori’n digwydd ar hyn o bryd—. Ac mae yn galonogol i glywed neges glir fan hyn y prynhawn yma na fydd y Llywodraeth yn derbyn strategaethau sydd ddim yn gwneud cyfraniad digon helaeth i’r nod o wireddu miliwn o siaradwyr Cymraeg.
A gaf i ddiolch i Mike Hedges, a’i longyfarch e a Neil McEvoy am gyfrannu i’r drafodaeth yn y Gymraeg hefyd? Ond rwyf yn ofni bod Mike efallai wedi gadael y gath mas o’r cwd drwy ofyn y cwestiwn a ydym ni’n sôn am filiwn o siaradwyr ar draws y byd i gyd fan hyn, neu a ydym ni’n sôn am filiwn o siaradwyr yng Nghymru yn benodol. Wel, os cyrhaeddwn ni filiwn o siaradwyr ar draws y byd i gyd, mi fydd hynny’n gam positif ymlaen yn sicr, ac mi awn ni hyd yn oed ymhellach os gallwn ni, efallai, gydag amser, ond un cam ar y tro. Ac rwyf yn meddwl bod y pwynt wnaeth Neil McEvoy ynglŷn â chynllunio’r gweithlu yn un cwbl, cwbl allweddol, ac hefyd y cyfraniad economaidd y mae’r iaith Gymraeg yn ei wneud. Rwy’n gwybod am gwmni datblygu rhaglenni cyfrifiadurol sydd wedi ennill cytundebau ar draws y byd am yr union reswm eu bod nhw wedi datblygu meddalwedd sy’n gallu gweithredu’n ddwyieithog oherwydd bod e’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru, ac felly mae hynny’n gallu cael ei drosglwyddo i rannau eraill o’r byd, lle byddai datblygu meddalwedd a oedd yn gweithredu dim ond mewn un iaith yn golygu na fydden nhw wedi ennill rhai o’r cytundebau yna. Felly, mae yna enghreifftiau allan yna, ac mae angen i ni hyrwyddo’r rheini, oherwydd mae’r ddadl economaidd yn un bwysig a chanolog iawn i’r drafodaeth yma hefyd.
Rwy’n falch i glywed y Gweinidog yn dweud ei fod e o ddifri, a bod y Llywodraeth o ddifri—yr un mor ddifri, rwy’n siŵr, ag yr ydym ni fan hyn—i weld y nod yma yn cael ei gyrraedd. Trwy eu gweithredoedd y’i bernir hwy, felly, yn amlwg, byddwn ni fel gwrthblaid, a gwrthbleidiau, rwy’n siŵr, yn cadw llygad barcud ar ddynesiad y Llywodraeth, a sut y mae’r maes yma yn datblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Ond, fel y dywedais i ar y cychwyn, byddwn ni yn disgwyl—ac yn wir, mae maint yr her bellach yn mynnu—bod y modd y mae’r Llywodraeth yma yn gweithredu yn benderfynol ac yn ddewr, ac os gwnewch chi hynny, rwy’n siŵr y bydd mwy na miliwn o bobl yn dod gyda chi ar y daith yma.