Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Wel, os bydd rhywun yn derbyn presgripsiwn, wrth gwrs, yna gall yr ymagwedd fod yn wahanol. Ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod cydbwysedd teg rhwng yr hyn y disgwylir i unigolyn ei gyfrannu a’r hyn sydd ar gael i'r unigolyn hwnnw. Ac rydym ni’n gweld bod canlyniadau da. Er enghraifft, bu gostyngiad o 10 y cant i’r gyfradd gyffredinol o bobl sy'n marw o gyflwr iechyd anadlol, yn ogystal â gostyngiad o 11.1 y cant i nifer y derbyniadau brys yn ymwneud â chyflyrau anadlol rhwng 2013 a 2014.