<p>Gwella Iechyd y Cyhoedd </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:54, 15 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n hynod bwysig, wrth gwrs, bod yr Aelodau’n deall bod y Bil iechyd y cyhoedd yn rhan o strategaeth gyffredinol i wella iechyd a lles; nid ydynt yn fesurau annibynnol. Y bwriad, wrth gwrs, yw i ni i gyflwyno Bil sydd mor gynhwysfawr ag y gall fod gan gofio, wrth gwrs, yr anawsterau a gafwyd a safbwyntiau cryf rhai Aelodau o ran darnau o’r Bil blaenorol. Ac rydym ni’n gwybod hanes hynny, wrth gwrs.