Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Wrth gwrs, rydym ni’n aros i weld beth fydd y ffigur—. Wel, mae gennym ni syniad beth fydd y ffigur ac rydym ni’n aros i weld sut y bydd y ffigur hwnnw’n cael ei ddosbarthu, gan gofio, wrth gwrs, o’r ffigur o tua £130 miliwn, bod £30 miliwn wedi cael ei dalu gan sector cyhoeddus Cymru eisoes. Felly, mae'n arian sy’n cael ei ddychwelyd, i bob pwrpas, i sector cyhoeddus Cymru, a byddwn yn ceisio defnyddio'r arian hwnnw, fel yr ydym ni wedi ei wneud erioed, i sicrhau y gallwn greu cymaint o brentisiaethau effeithiol â phosibl.