<p>Triniaethau’r GIG yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:59, 15 Tachwedd 2016

Rydw i wedi siarad yn y Siambr yma droeon am bwysigrwydd profion diagnostig. Mae e wedi cael ei dynnu i’m sylw i gan feddygon teulu yn fy etholaeth bod amseroedd aros am brofion endosgopi wedi cyrraedd lefelau pryderus yn y misoedd diwethaf, efo sôn am gleifion yn gorfod aros blwyddyn a saith mis ar ôl cyrraedd brig y rhestr. A wnaiff y Prif Weinidog roi ymrwymiad i edrych ar beth sy’n digwydd o ran profion endosgopi yn y gogledd-orllewin i sicrhau bod cleifion yn cael profion a gofal priodol ac amserol—profion, wrth gwrs, sy’n gallu achub bywydau?