<p>Mynediad i’r Ganolfan Gofal Arbenigol a Chritigol Arfaethedig</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 15 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'n eithaf cyffredin i bobl ddefnyddio ysbyty nad yw’n dechnegol yn ardal y bwrdd iechyd y maen nhw’n byw ynddi. Er enghraifft, mae pobl yn Aberogwr neu Ewenni yn naturiol yn defnyddio Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er nad ydynt yn ardal y bwrdd iechyd lleol, a bydd hynny’n parhau yn y dyfodol. Mae'n hollol iawn i nodi bod cyfleoedd gyda'r metro i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu teithio yn haws, ac mae'n gwneud pwynt pwysig a diddorol am gael stop yn y ganolfan.

O ran trafnidiaeth yn gyffredinol, gwn y bydd Ysgrifenyddion y Cabinet sy'n gyfrifol am drafnidiaeth ac iechyd yn gweithio gyda'i gilydd i wneud yn siŵr bod gan y ganolfan y cysylltiadau trafnidiaeth hynny, a gwn fod yr ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans hefyd wedi cymryd rhan agos yn natblygiad lleol cynlluniau ar gyfer y ganolfan.