Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 15 Tachwedd 2016.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw? Mae’n hen bryd, rwy’n meddwl, i ni fynd i’r afael â rhai o’r trafferthion sydd wedi bod yn llethu ac yn gysgod mawr dros ysgolion bychan ac ysgolion gwledig dros y blynyddoedd. Fel rhywun sydd yn byw mewn cymuned wledig, fel rhywun sydd yn rhiant i blant sydd yn mynychu ysgol fechan wledig ac yn llywodraethwr ar ysgol honno, rwy’n arbennig yn croesawu’r datganiad, a hefyd, wrth gwrs, yn datgan fod gen i ddiddordeb yn hynny o beth.
Rŷch chi’n sôn, wrth gwrs, am fynd ati i greu strategaeth genedlaethol ar gyfer ysgolion bach a gwledig, ond nid ydych yn rhoi llawer o fanylion ynglŷn â sut, efallai, rŷch chi’n mynd i fynd ati i wneud hynny. Felly, efallai y gallech chi sôn ychydig am y broses sydd gennych chi mewn golwg am hynny, a phryd rŷch chi’n disgwyl y bydd y strategaeth yma yn ei lle.
Rwy’n croesawu yn fawr y newid yn y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion yn y cod trefniadaeth ysgolion. Yn sicr, mae hynny yn rhywbeth sydd eisoes yn bodoli yn Lloegr. Wrth gwrs, prif ffactor y cod presennol, os rwy’n cofio’n iawn, wrth ystyried cau yw gwarchod deilliannau addysgol, ac nid wyf yn credu bod neb yn awgrymu y dylid newid hynny. Rwy’n gwybod mai rhoi ffocws ar ansawdd yr addysg sydd ei angen, ac nid, efallai, o reidrwydd ar bethau mwy ffisegol, fel lleoedd gwag ac yn y blaen. Rŷch chi wedi sôn am yr angen i ystyried opsiynau ehangach yn hytrach na chau. Efallai y gallech chi sôn ychydig ynglŷn â sut y gallwn ni ehangu'r fwydlen o opsiynau sydd yna, oherwydd, hyd y gwelaf i, mae clystyru a ffedereiddio ac efallai rhyw elfen o gydweithio ychydig yn fwy bwriadol. Ond, yn fwy na hynny, pa syniadau sydd yna i ysgolion i’w hystyried?
Gan fy mod i wedi cyfeirio at leoedd gwag a chan nad ŷch chi’n cyfeirio at lefydd gwag yn y datganiad, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn ffocws cryf i’ch rhagflaenwyr chi beth bynnag o safbwynt y pwyslais ar aildrefnu ysgolion mewn ardaloedd gwledig, a gaf i ofyn i chi efallai sôn a ydych chi’n teimlo bod yna ormod o bwyslais wedi bod? A ydych chi am leihau'r pwyslais ar hynny? Yn sicr, mae wedi bod yn ffocws i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain—yn un o brif amcanion band A, os rwy’n cofio yn iawn. Felly, a fydd yna lai o bwyslais ar lefydd gwag yn y dyfodol, pan fydd hi’n dod i edrych ar ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, yn ogystal â bwriadau ehangach o safbwynt aildrefnu?
I mi, wrth gwrs, nid yw ysgol yn bodoli mewn ‘vacuum’, ac mae angen hefyd edrych ac ystyried beth yw’r cysylltiad rhwng addysg wledig a gwarchod, cefnogi a datblygu cymunedau gwledig yn ehangach. A gaf i ofyn pa drafodaeth rŷch chi wedi ei chael gydag Ysgrifenyddion Cabinet eraill ynglŷn â’r angen i fynd i’r afael â phroblemau ehangach, oherwydd symptom yn aml iawn yw cau ysgol fechan o’r ffaith bod yr economi leol ddim yn cynnal teuluoedd ifanc a bod pobl yn gadael a bod diboblogi yn digwydd. Felly, mae trio datrys un heb efallai rhywbeth mwy bwriadol i fynd i’r afael â’r llall ddim ond yn rhan o’r ateb.
Rydw i’n gwybod, yn yr Alban er enghraifft, yn dilyn y comisiwn a gawson nhw ychydig o flynyddoedd yn ôl i edrych ar ysgolion gwledig yn fanna, maen nhw wedi gosod ffocws, er enghraifft, ar gyflwyno canolfannau teuluol mewn ysgolion gwledig a gwasanaethau blynyddoedd cynnar mewn ysgolion gwledig. Wrth gwrs, mae yna gysylltiad amlwg, efallai, gyda rhai o’r pethau rŷm ni’n clywed oddi wrth yr Ysgrifennydd Cabinet ar gymunedau ynglŷn â gofal plant a’r parthau plant yma y bu cyfeirio atyn nhw fel cyfle posib. Byddwn i’n licio clywed pa gyfleon rŷch chi’n credu sydd yna o safbwynt darpariaeth wledig yn hynny o beth.
Hefyd, mae yna angen i annog sectorau eraill i chwarae eu rhan ac i gydweithio i gefnogi addysg wledig. Nid wyf i jest yn sôn am bethau fel y sector gwirfoddol, ond yn sicr addysg bellach ac addysg uwch, yn enwedig, efallai, mewn sefyllfa addysg uwchradd wledig. Byddwn i’n licio clywed sut rŷch chi’n meddwl bod yna gyfraniad posibl yn dod o’r cyfeiriad yna i fynd i gefnogi rhai o’r pethau rŷm ni am eu gweld yn digwydd.
Eto yn yr Alban, mae yna gyllid ychwanegol wedi’i darparu i brifysgol yr ucheldir ac ynysoedd yr Alban, i’w hannog nhw i weithio’n agosach gydag ysgolion gwledig. Rŷch chi’n cyfeirio at greu cronfa o £2.5 miliwn, a thra mod i’n croesawu hynny ac yn cydnabod y pwysau ariannol sydd ar y Llywodraeth, efallai yng nghyd-destun rhai o’r cynlluniau eraill, nid yw e cymaint â hynny. Yn sicr, o edrych ar faint yr her a faint yr angen am gefnogaeth ychwanegol sydd yn y cyd-destun gwledig, byddai rhywun wastad eisiau mwy. Ond mi ofynnaf i, efallai, ai man cychwyn yw hyn, oherwydd byddai rhywun yn tybio bod angen ymdrech ehangach. Mae rhywun yn meddwl am dechnoleg gwybodaeth, ac rŷch chi’n cyfeirio ato fel un o’r agweddau—i harneisio pŵer technoleg gwybodaeth gyda’r arian yna. Mi roeddwn i mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf lle’r oedd yr athro yn yr ysgol yn dweud wrthyf i os oes mwy na dau ddisgybl yn mynd ar y we ar yr un pryd, mae’r holl beth yn dod i stop. Felly, mae yna broblemau seilwaith. Rwy’n gwybod bod y Llywodraeth yn ymwybodol o hynny, ond nid yw rhywun efallai’n teimlo ein bod ni’n gwneud y cynnydd y dylem ei wneud.
Mae denu athrawon, wrth gwrs, i weithio mewn ardaloedd mwy gwledig yn her. Os ŷch chi’n ddirprwy bennaeth mewn ysgol fawr, beth yw’r cymhelliad ichi fynd yn bennaeth mewn ysgol lai? Mae angen gofyn y cwestiwn, oherwydd nid yw’r cymhelliad ariannol o safbwynt cyflog yn gymaint â hynny o’i gymharu â’r baich ychwanegol a’r cyfrifoldebau ychwanegol fydd yn dod yn sgil hynny. Felly, sut fydd y strategaeth rŷch chi’n sôn amdani, efallai, yn help i fynd i’r afael â’r pwysau hynny o safbwynt yr adnoddau staffio?
Ac yn olaf, allwn ni ddim edrych ar sefyllfa ysgolion gwledig heb ystyried hefyd, wrth gwrs, sefyllfa cludiant ysgolion mewn cyd-destun gwledig, oherwydd mae’r ddarpariaeth fel y mae wedi bod, yn crebachu. Beth rŷm ni’n ei weld, wrth gwrs, yw nifer o rieni’n mynd â’u plant gyda nhw i’r trefi neu’r canolfannau lle maen nhw’n gweithio i gael eu haddysgu oherwydd nad yw’r ddarpariaeth drafnidiaeth oedd yna yn y gorffennol yno bellach oherwydd gwahanol doriadau. A oes yna unrhyw ystyriaeth wedi cael ei rhoi, ac, os nad oes, pa ystyriaeth fydd yn cael ei rhoi i sicrhau a chryfhau’r ddarpariaeth drafnidiaeth ysgolion? Heb hynny, mae’n ei gwneud hi’n anodd iawn i sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar y gwasanaeth.