Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Oedd, roedd nifer o bwyntiau ynghylch arwyr lleol, arwyr cymunedol a chwedlau cenedlaethol yr wyf yn credu bod yr Aelod wedi’u codi, yn gyntaf oll o ran Billy Boston. Mae hwn yn fater y mae’r Aelod wedi’i godi yn y gorffennol, a byddwn i'n falch iawn o dderbyn unrhyw ddiddordeb gan unrhyw grwpiau lleol ynghylch cais am adnodd i helpu i ddathlu'r anfarwolyn penodol hwn. Mae gennym, fel yr amlinellais yn ystod y cwestiynau yr wythnos diwethaf, nifer o ffrydiau ariannu, gan gynnwys y gronfa arloesi twristiaeth rhanbarthol, sy'n gallu helpu gyda'r math hwn o ddatblygiad. A byddaf yn fwy na pharod i gael swyddogion i drafod y gronfa honno a llwybrau eraill posibl o gymorth gydag unrhyw grwpiau cymunedol sy'n edrych ar unrhyw ddigwyddiadau neu unrhyw osodiadau i ddathlu Billy Boston yn ystod 2017, neu yn wir yn y dyfodol.
Soniodd yr Aelod am Gaerdydd. O ran Caerdydd ac yn arbennig Bae Caerdydd, neu Tiger Bay, fel y'i gelwid tan y blynyddoedd diwethaf, mae sioe gerdd o'r radd flaenaf yn cael ei datblygu a fydd yn adrodd hanes treftadaeth ddiwydiannol Tiger Bay gyda'r nod o’i dyrchafu ar lwyfan y byd. Mae trafodaethau hefyd ar y gweill i ddatblygu cynnig cynnyrch rhithwir arloesol i Fae Caerdydd a fydd yn trwytho ymwelwyr ymhellach yn stori treftadaeth ddiwydiannol Cymru ac yn cyflawni'r hyn yr wyf yn meddwl fydd yn gynnyrch gwirioneddol aml-ddimensiwn.
Rwy'n credu ei fod hefyd yn bwysig ein bod yn cydnabod, y flwyddyn nesaf, y byddwn yn gweld cwblhau un o'r prosiectau adnewyddu treftadaeth mwyaf yn unrhyw le yn y wlad, gyda chwblhau’r gwaith ar y Gyfnewidfa Lo restredig yma ym Mae Caerdydd. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth, pan fydd yr adeilad arbennig hwnnw yn agor fel gwesty ac fel amgueddfa leol, y bydd yn denu sylw o bob cwr o'r byd, yn bennaf oherwydd bod llawer o anfarwolion cerddoriaeth a ffilmiau sydd yn dal yn fyw wedi perfformio yn y Gyfnewidfa Lo cyn iddi gael ei chau. Felly, rydym yn gobeithio y byddant yn ymuno â ni i ddathlu ailagor yr adeilad pwysig hwn.
Ond mae treftadaeth ddiwydiannol gyda ni ledled Cymru, a gwn, yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, fod llawer o Aelodau wedi codi yn y Siambr ac yn ysgrifenedig eu gobeithion bod mwy yn cael ei wneud i hyrwyddo ein treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog. Yn wir, mae'n bwysig iawn i'r cynnig twristiaeth yn fy etholaeth fy hun, nid yn unig gyda rheilffyrdd treftadaeth, ond gyda chyn safleoedd dur a glo yn denu llawer o ymwelwyr. Rwy'n awyddus yn ystod Blwyddyn y Chwedlau ein bod yn dathlu treftadaeth ddiwydiannol yn fwy nag erioed o'r blaen.
O ran gwerthu Cymru i America, wel, mae ein diwydiannau creadigol yn perfformio'n well nag yn unman arall yn y DU ar wahân i Lundain, gan ddenu buddsoddiadau sylweddol i Gymru a galluogi Cymru i gael ei dal ar y sgrin fawr. Credaf fod y llwybr ffilm sy'n cael ei roi at ei gilydd gan Sgrin Cymru yn cofnodi llawer o'r lleoliadau allweddol ar gyfer ffilmiau sylweddol, er ei fod yn peri gofid o hyd na welsom 'Spectre' yn cael ei ffilmio yn y Siambr hon, gan fy mod yn meddwl y byddai hynny'n wedi ychwanegu diddordeb anhygoel yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Ond mae'r Aelod yn iawn—mae’n rhaid i hyn ddigwydd am sawl blwyddyn. Mae'n rhaid i ni gadw'r cynnyrch yn ffres. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod balchder yn cael ei adnewyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, a dyna pam rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr bod y blynyddoedd thematig yn parhau. Ar ôl 2017 a Blwyddyn y Chwedlau byddwn yn symud ymlaen i 2018, Blwyddyn y Môr. Mae’r blynyddoedd ar ôl hynny eto i gael eu penderfynu, ond credaf fod llwyddiant y Flwyddyn Antur yn golygu y gallwn fynd ymlaen gyda'r sector cyfan ochr yn ochr â ni.