Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o ddiweddaru'r Aelodau ynglŷn â sut y mae GIG Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn cynllunio cyflenwi gwasanaethau cadarn i ddinasyddion ar gyfer cyfnod y gaeaf sydd i ddod.
Y gaeaf diwethaf, cafodd y gwasanaethau brys ac argyfwng ddiwrnodau lle'r oedd ymchwydd sylweddol yn y galw, yn enwedig gan gleifion a chanddynt anghenion gofal mwy cymhleth. Rai diwrnodau, roedd y galw yn uwch o lawer na’r hyn y gellid ei ragweld yn realistig ar gyfer ambiwlansys brys, gofal sylfaenol y tu allan i oriau ac, yn wir, derbyniadau brys i'r ysbyty drwy adrannau damweiniau ac achosion brys. Er enghraifft, ar droad y flwyddyn, cyrhaeddodd nifer yr ambiwlansys a oedd yn cyrraedd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys uchafbwynt o 22 y cant yn uwch na'r cyfartaledd ym mis Ionawr 2015, ac roedd hyd at 23 y cant yn fwy o bobl mewn adrannau damweiniau ac achosion brys na'r cyfartaledd ym mis Ionawr 2015.
Erbyn hyn, cydnabyddir bod pwysau ar y system gofal yn wirionedd drwy gydol y flwyddyn, ac eto profiad y rhan fwyaf yw bod ein staff rheng flaen yn parhau i ddarparu gofal proffesiynol a thosturiol. Rwy'n siŵr y bydd pawb yn y Siambr yn ymuno â mi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n haelodau staff ymroddedig, sy'n helpu pobl pan fyddant ei angen fwyaf.
Eleni, rhoddwyd cyfarwyddiadau gennym i GIG Cymru ac awdurdodau lleol ddatblygu cynlluniau integredig yn gynt nag o'r blaen er mwyn cynllunio ar y cyd eu hymateb i’r heriau y bydd y gaeaf yn anochel yn eu cyflwyno. Cynhaliodd y GIG a phartneriaid gyfres o ddigwyddiadau cynllunio cenedlaethol lle craffodd aelodau allweddol o staff ar gynlluniau i rannu arferion dysgu o’r gaeafau a fu ac enghreifftiau o arferion gorau.
Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld ein system yn cryfhau drwy ddatblygu dull system gyfan, felly mae cynllunio a sefydliadu gyda’i gilydd wedi adeiladu ar gynlluniau a phrofiadau y flwyddyn diwethaf er mwyn paratoi at y gaeaf hwn. Mae yna, wrth gwrs, amrywiaeth o gamau gweithredu cadarnhaol wedi’u cynllunio i gryfhau gwasanaethau ymhellach, gan gynnwys cynnyddu nifer y gwelyau, o ystyried y cynnydd tebygol yn nifer y cleifion â llawer o gyflyrau y bydd angen eu derbyn i'r ysbyty. Caiff gwasanaethau triniaeth ddydd brys eu cryfhau i alluogi cleifion â chyflyrau penodol i gael eu trin heb fod angen iddyn nhw aros yn yr ysbyty dros nos, lle bo hynny’n bosibl. Ac rydym wedi gweld tuedd gyffredinol o leihad yn yr oedi wrth drosglwyddo gofal, ac mae partneriaethau rhanbarthol wrthi’n gweithio i gyflawni gwelliannau pellach.
Mae cynnal llif cleifion da ar draws y system gyfan yn allweddol, a rhoddir pwyslais cryf ar hwyluso'r broses o ryddhau cleifion drwy wneud y mwyaf o nifer ein gwelyau drwy gydweithio. Mae meysydd eraill i’w cryfhau yn barod at y gaeaf hwn yn cynnwys gwasanaethau cam-i-fyny a gwasanaethau cam-i-lawr ychwanegol ar draws Cymru er mwyn darparu gwelyau arhosiad byr i bobl sy'n gadael yr ysbyty ac sy'n feddygol iach, ond nad ydynt yn barod eto i ddychwelyd adref. A chaiff y gwelyau hynny hefyd eu defnyddio fel rhai cam-i-fyny i bobl yn y gymuned er mwyn osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty. Mae pob bwrdd iechyd yn bwriadu cynyddu darpariaeth ymgynghorol yn ystod y cyfnodau penwythnos heriol, a bydd hynny’n cynnwys sicrhau bod uwch swyddogion sy’n gwneud penderfyniadau yn ystod y penwythnos yn bresennol, er enghraifft, wrth y drws ffrynt neu ar wardiau cleifion mewnol er mwyn helpu i gefnogi rhyddhau cleifion yn brydlon. Bydd cymorth ychwanegol ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau a gwell defnydd o weithwyr cymdeithasol yn yr ysbyty er mwyn hwyluso’r gwaith o asesu a rhyddhau, i enwi ond ychydig.
Ond rydym ni hefyd yn disgwyl dysgu o'r gorffennol, ac rwy’n awyddus i fodelau newydd o ofal gael eu gweithredu yn eang i gefnogi anghenion cleifion. Cefais fy mhlesio gan amrywiaeth eang o ddulliau arloesol, er enghraifft, y fenter 'pontio'r bwlch' sydd wedi ennill gwobrau, sef dull integredig yn ardal Caerdydd, sy’n canolbwyntio ar gefnogi cleifion sy'n mynd i’r adran ddamweiniau ac achosion brys neu sy’n ffonio am ambiwlans yn rheolaidd, er mwyn helpu i wella canlyniadau a lleihau'r galw; y model gofal uwch Môn yn Ynys Môn, sy'n darparu gofal dwys yn y cartref i gleifion oedrannus â salwch difrifol drwy weithio fel tîm gan ddefnyddio adnoddau cymunedol, gan gynnwys gofal cymdeithasol, uwch-ymarferwyr nyrsio a meddygon teulu fel partneriaid allweddol; a rhaglen gwasanaethau cymunedol bae’r gorllewin yn Abertawe, sydd eto’n dîm aml-ddisgyblaethol, a fwriedir er mwyn ei gwneud hi’n haws cael gafael ar wasanaethau gofal canolraddol a chadw pobl yn iach ac yn annibynnol. Yn olaf, rwy’n falch iawn o ddweud bod y cynllun peilot braenaru ‘pathfinder 111’ wedi cychwyn ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ym mis Hydref ac mae'n darparu cyfle gwirioneddol i gyfeirio cleifion at y gwasanaeth priodol.
Rydym ni wedi cefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau diogel a phrydlon dros y gaeaf a thu hwnt drwy fuddsoddi’n sylweddol, ac rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol. Wrth gwrs, ar 3 Tachwedd, cyhoeddais fod y Llywodraeth hon wedi darparu £50 miliwn ychwanegol i GIG Cymru er mwyn helpu i reoli'r galw dros y gaeaf a chefnogi perfformiad y GIG. Mae hynny yn ychwanegol at y £3.8 miliwn i gefnogi rhaglen genedlaethol o brosiectau braenaru a phrosiectau sy’n pennu cyfeiriad er mwyn profi ffyrdd newydd ac arloesol o gynllunio, trefnu a darparu gwasanaethau gofal sylfaenol, a daw £10 miliwn o’r gronfa gofal sylfaenol genedlaethol i gefnogi datblygiad clystyrau gofal sylfaenol. Mae hynny'n golygu 250 o swyddi gofal sylfaenol ychwanegol, gan gynnwys meddygon teulu, swyddi nyrsio, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a fferyllwyr i enwi ond rhai ohonynt. Hefyd, rhoddwyd £60 miliwn ar gael gennym ar gyfer y flwyddyn hon drwy'r gronfa gofal canolraddol er mwyn helpu i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty ac oedi wrth ryddhau. Mae’r holl fentrau hyn gan Lywodraeth Cymru yn gwneud gwelliannau sylweddol i’r gwasanaethau a ddarperir i bobl.
Yn bwysig, wrth feddwl yn ôl i'r llynedd, mae ein gwasanaeth ambiwlans eleni mewn sefyllfa lawer gwell ar gychwyn tymor y gaeaf, yn dilyn gwelliant parhaus mewn perfformiad dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos mai dim ond pedwar munud a 38 eiliad yw’r amser ymateb cyfartalog i gleifion lle mae eu bywydau yn y fantol.
Am y tro cyntaf mewn blwyddyn, rydym wedi gweld dros 1 miliwn o ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae’r galw hwn, ynghyd â'n poblogaeth sy'n heneiddio a chynnydd yn nifer y cleifion a chanddyn nhw anghenion cymhleth, yn rhoi pwysau gwirioneddol ar ein system. Gwelir pwysau tebyg ar draws teulu’r GIG yn y DU. Mae yna, wrth gwrs, lawer mwy i'w wneud er mwyn cyflawni'r gwelliannau yr ydym ni’n dymuno eu gweld, ond rydym wedi gweld gwelliannau cyffredinol mewn perfformiad yn erbyn targedau allweddol o ran mynediad at ofal brys dros y chwe mis diwethaf. Wrth gwrs, gallwn ni i gyd chwarae ein rhan fel dinasyddion i helpu'r GIG drwy sicrhau bod mwy o’r bobl hynny sy’n gymwys i gael brechlynnau ffliw am ddim, yn eu derbyn, ac ystyried yn ofalus ai fferyllydd yw'r dewis gorau pan fyddwn ni’n teimlo’n sâl.
Yn olaf, wrth gwrs, rydym ni’n annog pobl i wneud 'Dewis Doeth' y gaeaf hwn drwy gadw eu hunain yn gynnes. Bydd hynny'n helpu i atal annwyd, y ffliw neu gyflyrau iechyd mwy difrifol megis trawiad ar y galon, strôc, niwmonia neu iselder. Mae pob un ohonom yn cydnabod bod y gaeaf yn gyfnod heriol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym wedi gweld galw yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn a fydd yn parhau i herio'r system gyfan, ac mae hynny’n atgyfnerthu'r angen am ddull system gyfan. Ni ddylai neb gymryd arnynt y bydd y gaeaf yn hawdd, ond rwy’n credu'n gryf y bydd paratoi’n helaeth ar lefel leol a chenedlaethol yn darparu gwasanaethau cadarn a chryf fel y gall pobl gael gafael ar y gofal y maen nhw ei angen pan fyddant ei angen.