Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Diolch am hynny, Ysgrifennydd Cabinet. Nid oedd gweithgareddau Cymunedau’n Gyntaf yn boblogaidd gyda chynghorau tref neu gymuned bob tro, neu’n wir gyda rhai grwpiau lleol. Ac nid fi yw’r unig un a oedd yn clywed am actifyddion cymunedol, am danciau yn parcio ar lawntiau ac yn cymryd drosodd, ac yn y blaen. Nawr, nid oes dim ots gyda fi pwy sy’n gywir neu’n anghywir, ond rwy’n pryderu bod meddylfryd seilo ac amharodrwydd i rannu cyfrifoldeb wedi ymwreiddio mewn rhai achosion. A ydych chi’n meddwl, gyda mecanwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ei bod hi’n bosibl i ymddiried yn y sefydliadau sydd eisoes yn bodoli yn ein cymunedau i rannu grym a chyfrifoldeb am wella gallu y gymuned i ymdrin yn fwy uniongyrchol â’i heriau ei hun, heb yr angen am luniad artiffisial fel Cymunedau’n Gyntaf?