Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Rwy’n gwerthfawrogi’r gwaith a wnaed gan Cymunedau yn Gyntaf yn Nwyrain Abertawe a gobeithiaf y bydd y gwaith ar wella iechyd, cyrhaeddiad addysgol, lleihau alldaliadau sefydlog, a dod o hyd i waith yn parhau. Ym marn Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw rôl y cynghorau lleol a’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus wrth adeiladu cymunedau gwydn a pharhau’r cynlluniau ardderchog ac angenrheidiol hyn?