Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Cytunaf â’r Aelod o ran gallu’r rhieni i gael rhywfaint o ddewis a chaniatáu hyblygrwydd yn y system. Mae sicrhau bod gennym ofal plant a gwasanaethau o safon yn drafodaeth rwy’n parhau i’w chael gyda’r Gweinidog addysg, a Gweinidogion eraill yn y Llywodraeth, a bydd y cynlluniau peilot yn ein galluogi i ddysgu gwersi o’r rhaglen honno.