Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Gallaf yn wir, ac mae’r Aelod yn iawn i godi’r mater hwn. Mae yna ddwy gydran yn fy adran, ac rydym yn ymestyn hynny drwy ein holl gyfleoedd i ymyrryd o ran lles economaidd a swyddi, sgiliau a thwf ar gyfer cymunedau ac unigolion, ond hefyd o ran lles yr unigolyn, gan fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a llesiant. Mae’r adduned gofal plant yn rhan hanfodol o’r jig-so o ran galluogi pobl i gael gwaith, a gobeithio y bydd yn caniatáu i rai rhieni gynyddu nifer yr oriau y gallant weithio, gyda thlodi mewn gwaith yn broblem y mae’r Aelod wedi ei chodi o’r blaen. Ond mae’n rhaglen uchelgeisiol, ac mae’n un o rai mwyaf effeithiol y DU o ran cyflawni, ac edrychwn ymlaen at ddechrau’r cynllun peilot yn yr hydref y flwyddyn nesaf.