Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Credaf fod hwnnw’n bwynt diddorol gan yr Aelod. Rwyf wedi bod yn cael llawer o gyfarfodydd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rydym yn edrych ar y maniffesto, sy’n glir iawn mewn perthynas â’i gynnig i ddarparu ar gyfer plant tair a phedair blwydd oed. Yr hyn rydym yn chwilio amdano yw dilyniant di-dor rhwng y cyfnod sylfaen a gofal plant, ond gan edrych y tu hwnt i hynny ar ein cynnig cyfan ar gyfer pobl ifanc, sy’n rhywbeth rydym yn ymwybodol ohono drwy’r amser—sicrhau bod gennym y cyfleoedd gorau posibl i ymyrryd gyda’r cyllid cyfyngedig sydd ar gael i ni.