<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 1:41, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Cytunaf ag egwyddor y sefydliad a’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, ond mae gennyf ddyletswydd i sicrhau cysondeb ledled Cymru. Dyna pam ein bod, yn ddiweddar, wedi cyhoeddi’r mater ynglŷn â chymunedau cryf a sut bethau ydynt. Mae ymgysylltu’n rhan allweddol o hynny, gan sicrhau ein bod yn cael deall gan randdeiliaid a defnyddwyr y gwasanaethau am eu profiadau go iawn. Dyna pam y byddaf yn ceisio buddsoddi mewn ffocws profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a fydd yn dechrau deall sut y byddwn yn cyflawni ymyriadau cynnar ac atal mewn perthynas â’r union faterion y tynnodd yr Aelod fy sylw atynt yn y Siambr heddiw.