<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 1:42, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn canolbwyntio ar Rhentu Doeth Cymru a’r cyhoeddusrwydd parhaus wrth i’r cyfnod cofrestru ddod i ben. Rydym wedi gweld un hwb olaf o gyhoeddusrwydd, a allai achosi problemau gyda’r prosesau gweinyddol wrth ymdrin â llwyth mawr o geisiadau, gan gynnwys y rhai sy’n dewis cwblhau’r hyfforddiant ar-lein. A fydd camau gorfodi yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai sy’n ceisio cofrestru cyn y dyddiad cau ac yna’n peidio â chwblhau’r broses tan yn ddiweddarach?