<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 1:43, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynny. Nododd achos llys diweddar ynglŷn â’r ddeddfwriaeth mai naw swyddog gorfodi yn unig a gyflogir gan Rhentu Doeth Cymru. A wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi manylion ar unwaith ynglŷn â sut y byddwch yn gweithredu’r ddeddfwriaeth newydd, ac a fyddech yn cytuno y dylid rhoi adnoddau ychwanegol i Rhentu Doeth orfodi’r gyfraith, gan sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar landlordiaid diegwyddor?