<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 1:45, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Credaf fod yr Aelod wedi parhau â’i hadduned i sicrhau’r canlyniad gorau ar gyfer pobl ifanc o ran llythrennedd ariannol. Rwy’n ddiolchgar ei bod yn sgwrs y gall ei chael gyda fy swyddogion. Gwelais gofnodion y cyfarfod a gafodd yr wythnos hon, a byddwn yn ei hannog i barhau â’r trafodaethau hynny gyda fy nhîm a thîm y Gweinidog addysg i weld sut y gallwn sicrhau gwell cynnig i bobl ifanc, ac yn wir, i oedolion sydd angen llythrennedd ariannol, a bod hynny’n dod yn norm, yn hytrach nag atodiad.