Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Wel, credaf ein bod wedi gwneud—gwnaed gwaith gwych gan y Llywodraeth flaenorol a’r Gweinidogion a fu’n rhan o’r broses o greu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, a chredaf ein bod yn dysgu’n barhaus ynglŷn â ble mae pwysau yn system nad ydym wedi ei nodi, neu bwysau sy’n newydd i’r system. Byddaf yn ystyried ei chwestiwn, a byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynglŷn â sefyllfa’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn y dyfodol agos.