<p>Tai Cymdeithasol a Fforddiadwy </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 1:52, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf yn argyhoeddedig na allwn wneud mwy. Credaf mai’r hyn rydym wedi’i ddweud yw bod y model 20,000 rydym yn ei ddefnyddio yn ddechrau yn y broses o edrych ar fodelu ariannol a’r gallu i ddarparu 20,000 o gartrefi. Nid wyf yn pryderu ynglŷn â llunio’r ffordd y mae hynny’n edrych o ran cyfansoddiad yr 20,000. Os gallwn gael mwy o gartrefi rhatach, sy’n arbed ynni i bara’n fwy hirdymor mewn cyfnod tebyg i’r proffil buddsoddi sydd gennyf ar gyfer cyflawni hyn, rwy’n fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny. Nid yw hynny’n benodol i gynnyrch—ond mewn gwirionedd mae fy nhimau yn edrych ar arloesedd, ac yn gweithio gyda’r sector tai a’r is-adran tir i weld beth y gallwn ei wneud i helpu’r Aelod, yn wir, gyda’r gweithgaredd cadarnhaol y mae’n ei geisio o ran effeithlonrwydd ynni mewn tai.