Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Mae tîm Rhentu Doeth Cymru wedi bod o dan bwysau aruthrol, yn enwedig yn y misoedd diwethaf, gyda’r rhuthr hwyr o gofrestriadau. Yn anochel, mae rhai cwestiynau wedi cymryd mwy o amser nag arfer i’w hateb. Rwy’n canmol yr ymdrech enfawr a wnaed gan y tîm i reoli’r galw, fodd bynnag, sy’n cynnwys recriwtio mwy o staff.