Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Dyma’r peth iawn i’w wneud, yn bendant. Mewn gwirionedd, credaf fod yr Aelodau gyferbyn wedi pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth, felly nid wyf yn synnu eich bod yn cwyno am y peth yn awr. Gadewch i mi ddweud wrthych am y staff. Rwyf wedi ymweld â’r cyfleuster, a mentraf ddweud nad wyf yn credu bod yr Aelod wedi ymweld â’r cyfleuster, ac mae awgrymu eu bod mewn anhrefn yn rwtsh llwyr. Ers hanner nos neithiwr, 11 mis wedi i Rhentu Doeth Cymru ddod i rym, roedd bron 50,000 o landlordiaid wedi cofrestru’n llawn gyda Rhentu Doeth Cymru, gyda 1,100 o gofrestriadau wedi eu cwblhau ddoe’n unig. Nid wyf yn credu mai sefydliad mewn anhrefn yw hynny. Maent yn gwneud gwaith da iawn. Y ffaith amdani yw bid hon wedi bod yn broses 11 mis ar gyfer cofrestru, felly peidiwch â dweud wrthyf heddiw fod y rhaglen mewn anhrefn—nid oedd yr Aelod yn ei chefnogi pan gyflwynwyd y rhaglen gennym; nid wyf yn synnu nad yw’n ei chefnogi yn awr.