<p>Gwella Cyfleusterau Chwarae i Blant</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 1:55, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod heddiw. Rydym yn gweithio ar draws yr holl feysydd polisi sy’n gysylltiedig â Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaethau i gynyddu cyfleoedd chwarae i blant. Amlinellir y meysydd hyn yn ‘Cymru—Gwlad sy’n Creu Cyfle i Chwarae’, gan gynnwys ysgolion, cynllunio, traffig a thrafnidiaeth, ac iechyd a llesiant.