<p>Gwella Cyfleusterau Chwarae i Blant</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 1:56, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n llwyr gydnabod pryderon yr Aelod. Yn wir, deuthum i fyd gwleidyddiaeth oherwydd mannau chwarae yn fy ardal i—roeddwn am wneud yn well ar ran y gymuned, ac yn wir, yn hunanol iawn, ar ran fy merch, pan oeddwn yn mynd â hwy i’r parc ac nid oedd yn cyrraedd y safon. Felly, credaf fod gan yr Aelod bwynt dilys. Rydym wedi cyflwyno asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer awdurdodau lleol; mae ganddynt ddyletswydd statudol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant, ac mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gyflawni eu cynlluniau gweithredu ar gyfer chwarae bob blwyddyn.

Mae holl ethos y Llywodraeth hon yn ymwneud ag atal ac ymyrryd yn gynnar, ac yn enwedig pobl ifanc—mae cyflwyno Gweinidog plant yn dangos yn benodol iawn ein bod yn gwerthfawrogi cyfraniad pobl ifanc yn ein cymunedau a ledled Cymru.