Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Rwy’n diolch iddo am y datganiad hwnnw. Yfory, fel y mae’n gwybod, yw Diwrnod Mentrau Cymdeithasol. Mae llawer o leoliadau gofal plant yn cael eu darparu drwy gyfrwng mentrau cymdeithasol, fel y bydd yn gwybod gan ei fod yn gyfarwydd â lleoliadau yn fy etholaeth. Mae sicrhau gwydnwch y sector yn hanfodol, ac mae hynny’n cynnwys y sgiliau rheng flaen, wrth gwrs, ond hefyd, yn bwysig, sgiliau sy’n ymwneud â rhedeg y sefydliadau eu hunain. Fel rhan o’r cynlluniau sydd i ddod ym maes gofal plant, a wnaiff edrych ar lefelau sgiliau a phrofiad yn y sector i gyflawni’r swyddogaethau hynny hefyd—rheolaeth, cyfrifeg a marchnata hyd yn oed—ac edrych ar sut y gallwn ledaenu’r arferion gorau sy’n bodoli mewn rhannau o’r sector?