<p>Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:12, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn gwybod cystal â minnau fod dyletswydd ar awdurdodau lleol ac awdurdodau addysg lleol i sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cael ei hyrwyddo yn ein hysgolion. Yn anffodus, nid yw’r ddyletswydd yn ddarostyngedig i’w harolygu gan Estyn ar hyn o bryd. Rwy’n teimlo y dylai fod er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl ifanc yn gallu deall beth yw eu hawliau a sut y gallant sicrhau y gellir eu gwireddu. Pa gamau y byddwch yn eu rhoi ar waith gyda’ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i sicrhau bod cyfundrefn arolygu Estyn yn gallu edrych ar y ddyletswydd ac ystyried a oes angen gwneud newidiadau iddi?